Deuddydd cyn croesawu cast Under Milk Wood i’r Torch
Mae'r cyfri i lawr wedi dechrau .... ymhen dim ond dau ddiwrnod, bydd Theatr Torch, Aberdaugleddau yn croesawu cynhyrchiad Theatr Clwyd o gampwaith annwyl Dylan Thomas, Under Milk Wood, i'w llwyfan am bythefnos. Mae'r delweddau cynhyrchu cyntaf wedi'u rhyddhau yn dilyn agoriad y sioe yn Theatr Clwyd a bydd gwledd yn disgwyl aelodau'r gynulleidfa.
Wedi'i gyfarwyddo gan Kate Wasserberg, mae cynhyrchiad mawr Theatr Clwyd o Under Milk Wood yn dathlu tymor ei hanner canmlwyddiant a llwyfannu'r stori'n ffres. Gan gyfuno adrodd straeon geiriol Thomas â chynhyrchiad cyfoethog yn weledol a hygyrch lle mae Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau creadigol a disgrifiadau sain wedi'u hintegreiddio i bob perfformiad, mae'r cynhyrchiad hwn o Under Milk Wood yn un na ddylai unrhyw gynulleidfa ei golli.
Mae'r cast yn cynnwys actorion gorau o bob cwr o Gymru a'r DU sydd wedi cael eu gweld mewn cynyrchiadau mawr ar lwyfannau cenedlaethol yn ogystal â theledu a ffilm. Y cast llawn o un ar ddeg yw Douglas Walker. (The Visit, National Theatre), Caroline Parker (Signs of a Star Shaped Diva, Theatre Royal Stratford East), Macsen McKay (First Three Drops, Taking Flight), Izzi McCormack-John (Hot Chicks, Grand Ambition), Adam Bassett (Hullraisers, Channel 4), Georgia Griffiths (Power Of Words, Theatr na nÓg), Seán Carlsen (His Dark Materials, BBC), Jacob Coleman (Nye, National Theatre), Amy Conachan (Blood Wedding, Graeae Theatre), Mirain Fflur (Gwaith/Cartref, S4C) a Chandu Gopalakrishnan (High Times & Dirty Monsters, 20 Stories High).
Gellir gweld Under Milk Wood ar lwyfan Theatr Torch o 16 Ebrill i ddydd Sadwrn 25 Ebrill. Prisiau tocynnau o £15. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoiwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.