Daliwch yn dynn yn eich het gowboi!!

Wrth i ni gyfrif ein pawennau a’n crafangau a chroesawu tymor y pantomeim – a chynhyrchiad Theatr Torch o Puss in Boots gyda thema’r Gorllewin Gwyllt – aeth Val Ruloff, ein hadolygydd cymunedol, i’r sesiwn ddarllen. Roedd hi’n meddwl ei bod yn ‘gath-tastig’! Darllenwch ei hadolygiad isod; mae hi’n datgelu tipyn o wybodaeth, ond nid yw’n rhoi’r cyfan i ffwrdd!

Daliwch yn dynn yn eich het gowboi!!

Byddwch â’ch llaw ar y gwain .Drylliau- Creionau ar wawr.

Mae'r gyfrinach wedi’i datgelu – bydd Puss in Boots yn dod i theatr gyfagos – Theatr Torch!

Mae Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig y Torch, wedi cloddio wythïen gyfoethog o greadigrwydd a thalent, ac mae (eisoes) wedi taro’r nodyn gyda thrysor pantomeim eleni.

Mae'n edrych fel y bydd Puss In Boots yn swyno'r gynulleidfa! Mae Kevin Jenkins wedi rhagori unwaith eto! Mae dyluniad y set yn llawn dychymyg a chyffro – yn byrlymu â golygfeydd deinamig ac amrywiol – ac yn sicr yn addo creu argraff syfrdanol! Rwyf hyd yn oed wedi clywed bod y setiau eu hunain bron iawn yn eu lle!

Mae'r gwisgoedd yn ffantastig ac yn hyfryd eu gweld. Ar ôl craffu ar gasgliad ffasiwn y dylunydd -  rwy’n eu hystyried yn barod ar gyfer y bompren! Hynny yw – nid yw’n amhosibl y byddai siwtiau un-darn coch a gwyn disglair yn ymddangos – ymddangosiad sy’n haeddu arwr rhamantus i’w gwisgo! Heb sôn am y dillad sy'n gweddu i eicon hardd a hudolus ym myd y modelu, er mwyn iddi allu gwneud y mynediadau syfrdanol y mae ei byddin o gefnogwyr ymroddedig yn eu disgwyl yn eiddgar!

Mae'r cast yn ysbrydoledig – cymysgedd gwych o gymeriadau lliwgar yn cyd-ymgymysgu ac yn rholio dros ei gilydd, gan grafu a chrafangio eu ffordd drwy gyfres o anturiaethau gwallgof, anhrefn, helyntion gwyllt (yn yr arddull 'Gorllewin Gwyllt') a hwyl blewog, chwareus. Yn llawn disgleirdeb a gwreichion!

Freya Dare yw Puss – creadur hollol annwyl sy'n llawn gras cathod. Mae hi'n dod â chyfuniad swynol o lygaid mawr, toddol – fel llygaid cath sy'n edrych arnoch fel ci bach – ynghyd â iaith gathod sy'n llawn miau, crwndi a hisian.

Mae Samuel Freeman yn ôl i addurno llwyfan y Torch fel dihiryn cadarn a di-ildio.

Does dim cyrydiad yma; mae’r dyn dur hwn, rhywsut, yn llwyddo i aros yn rhydd rhag rhwd, a hyd yn oed ennill statws crwydryn annwyl.

Mae gan y Siryf ei gynorthwyydd ei hun, sy'n llawn breuddwydion – y dirprwy Seren, a chwaraeir gan Elinor Crane ddisglair.

Chwaraeir rhan Twm Foolery – crydd eithriadol i’r gath sy’n ‘Bersonoliaeth Bwysig’ (y V.I. Puss) – gan Callum Anthony. Gallai llygaid cath ganfod gwreichionen; gallai wisgeri sensitif grynu wrth synhwyro rhamant yn yr awyr, gyda rhai arwyr rhamantus parod ar gael.

Chwaraeir rhan Bonny-Anne Clyde gan Kelly Jackson, sy'n barod i redeg cylchoedd – neu efallai hanner cylchoedd – o amgylch unrhyw gynllwyn a ddyfeisir gan ein dihiryn presennol!

Arhoswch funud—pwy sydd yma, yn aros yn yr ystafell gefn i wneud ymddangosiad mawreddog ar lwyfan ei salon ffasiwn ei hun? Waw! Nid neb llai na Savannah Montana, yn rhoi ei chyfan - gyda chymorth sgiliau aruthrol, Lloyd Grayshon!

Beth ar y ddaear sy'n mynd i ddigwydd nesaf? Cadwch i fyny yn y cefn! Mae anturiaethau cyflym, gwyllt, egnïol a swnllyd – llawn hwyl a sbri yeehaw, yippee-ai-yay – ar drên sydd wedi mynd allan o reolaeth; mae troeon a syndodau ar hyd y ffordd wrth iddyn nhw geisio cyrraedd diweddglo hapus a chywiro pob cam.

Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad gyda Dehonglydd BSL: Dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau drwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

 

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.