Adolygiadau Gwych yn Heidio i Mewn

Mae wythnos wedi hedfan heibio ers i Gwmni Theatr Torch gyflwyno ei sioe hydref hynod lwyddiannus – The Hound of the Baskervilles – sioe a gafodd gymeradwyaeth frwdfrydig, gyda’r gynulleidfa’n codi i’w traed, ac yn ymateb yn eithriadol. Am gynhyrchiad! Am dalent sydd gennym yma yn Sir Benfro.

Mae wythnos wedi hedfan heibio ers i Gwmni Theatr Torch gyflwyno ei sioe hydref hynod lwyddiannus – The Hound of the Baskervilles – sioe a gafodd gymeradwyaeth frwdfrydig, gyda’r gynulleidfa’n codi i’w traed, ac yn ymateb yn eithriadol. Am gynhyrchiad! Am dalent sydd gennym yma yn Sir Benfro.

Wrth i Theatr Torch symud i'w 50fed flwyddyn yn 2027, mae adolygiadau gwych wedi bod yn llifo i mewn; mae Sarah Jane Absalom, sy'n gefnogwr brwd o Theatr Torch, yn disgrifio'r sioe fel “un o’r dramâu mwyaf doniol a bywiog y byddwch chi byth yn ei gweld yn eich bywyd.”

Roedd Val Ruloff, adolygydd cymunedol Theatr Torch, hefyd wrth ei bodd â’r cynhyrchiad – yr addasiad egnïol a ffraeth gan Steven Canny a John Nicholson, a oedd yn addas i’r teulu cyfan. Disgrifiodd y sioe fel “gwledd wirioneddol, llawn a maethlon, lle na wastraffwyd dim – dim digon hyd yn oed i’w roi mewn bag i fynd adref i’r ci.”

Roedd hi’n bresennol yn y sesiwn ddarllen o’r sgript ychydig wythnosau cyn i’r cynhyrchiad ddod yn fyw ar lwyfan Theatr Torch, ac ychwanegodd: “Mae’r hyn a addawyd yn y sesiwn ymarfer cychwynnol wedi’i gyflawni a mwy bellach; mae perfformiadau amryddawn i’w gweld, gydag aelodau o’r cast yn ymgymryd â nifer o wahanol rolau – a hyd yn oed rhywfaint o fyrfyfyrio sy’n ychwanegu at yr anhrefn a’r hwyl.”

Gwelodd y sioe ddau o hoff actorion Theatr Torch yn dychwelyd i'w llwyfan. Chwaraewyd rhan Dr Watson gan Jessica Dyas o Sir Benfro ei hun, ynghyd ag Artist Cysylltiol Theatr Torch, Gareth John Bale. Cafodd ef gyfle i arddangos ei ddoniau wrth ymgymryd â nifer o rolau – gan gynnwys Sherlock Holmes, Mr a Mrs Stapleton, a Slasher Seldon – yn ogystal â chymeriadau eiconig eraill. Chwaraewyd rhan Sir Henry Baskerville gan Rick Yale.

Gwelodd Sarah Hirst y sioe. Mae’n un o ddilynwyr Theatr Torch ar Facebook, a chafodd fwynhad mawr o’i gweld.

 “Am sioe wych – cymaint o egni, cymaint o dalent a chymaint, cymaint o chwerthin. Sut mae modd dewis hoff eiliad? Sut wnaeth Gareth fireinio’r holl acenion? Sut lwyddodd Jessica i gadw wyneb syth? A sawl gwaith wnaeth Rick dynnu ei ddillad? Roedd hi’n hynod ddifyr – roeddwn i wrth fy modd â’r cyfan.”

Dywedodd Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig a Phrif Weithredwr Dros Dro Theatr Torch:

“Mae wedi bod yn bleser pur treulio’r wythnosau diwethaf ym myd rhyfeddol Sherlock Holmes. Roedd y cynhyrchiad hwn yn her i’n cast a’n tîm creadigol mewn ffyrdd gwych, ac mae’r ymateb gan ein cymuned wedi bod yn anhygoel. Rwy’n credu mai’r ymateb mwyaf cyffredin gan y gynulleidfa oedd: ‘Dydy hyn ddim yr hyn roeddwn i’n ei ddisgwyl, ond roeddwn i wrth fy modd!’”

Ychwanegodd Chelsey: “Diolch mawr iawn i bawb a ddaeth i weld y sioe ac a chwarddodd gyda ni. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cynulleidfaoedd am eu haelioni, eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth drwy gydol y cyfnod perfformio. Mae wedi bod yn wych rhannu’r stori hon gyda chymaint o bobl, ac rydym yn gobeithio bod y cynulleidfaoedd wedi mwynhau cymaint ag yr ydym ni wedi mwynhau dod â hi’n fyw.”

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.