Dewch i ddarllen am Yourythmics yng nghwmni Stacy Green!
Yourythmics yw'r profiad band cyflawn, eithaf o weithiau'r Eurythmics. Cerddoriaeth egnïol, gwisgoedd anhygoel, cyfranogiad y gynulleidfa i gyd dan arweiniad ‘Annie Lennox’ - Stacy Green. Nid yn unig y mae Stacy eisoes wedi ennill gwobr teyrnged a thebygrwydd Annie Lennox Rhif 1 y DU, wedi'i phleidleisio a'i dyfarnu gan Gymdeithas yr Asiantau Cenedlaethol, ond mae hefyd wedi cael ei chydnabod gan artist benywaidd chwedlonol y DU, Annie Lennox ei hun!
Anwen o’r tȋm marchnata aeth i siarad gyda Stacy i ddarganfod rhagor ...
Beth all aelodau'r gynulleidfa ei ddisgwyl gan Yourythmics?
Mae Yourythmics yn ail-greu dilys a meddylgar o ôl gatalog yr Eurythmics ac Annie Lennox. Disgwyliwch wisgoedd tebyg gyda sylw i fanylion, hen ddillad wedi'u gwneud yn arbennig ac o'r radd flaenaf ynghyd â rhai eiliadau sy'n denu sylw go iawn. Mae'r caneuon a'r gerddoriaeth wedi'u dewis fel y gall pobl nid yn unig ymgolli yng ngwledd yr ysgrifennu caneuon ond er mwyn mwynhau y mwyaf posib. Rydym yn annog cyfranogiad y gynulleidfa i sicrhau bod pawb yn cael noson wych. Un o'r prif elfennau yw y gallai'r sioe hon ddod ag atgofion melys yn ôl i bawb.
Ydy’r sioe ar gyfer cefnogwyr Eurythmics yn unig?
Mae'r holl ganeuon poblogaidd wedi'u cynnwys, a bydd pawb yn eu hadnabod, hyd yn oed os ydyn nhw'n meddwl nad ydyn nhw wedi clywed teitlau'r caneuon o’r blaen... dyma un o'r sioeau hynny sy'n ysgogi’r atgofion a'r hiraeth ac ar gyfer pawb. Ond os ydych chi'n caru cerddoriaeth yr 80au a’r 90au, yna gall pawb eu mwynhau.
Beth yw eich hoff ran o'r perfformiad a pham?
Mae yna lawer o hoff rannau ond ar hyn o bryd rwy'n caru’r encôr oherwydd y wisg ysblennydd!
Pa mor debyg wyt ti i Annie Lennox a pha mor anodd yw hi i'w hefelychu?
Dechreuais efelychu Annie oherwydd bod cymaint o bobl yn dweud fy mod i'n edrych yn union fel hi, a dechreuais fwynhau efelychu ei gwisgoedd eiconig a'i phresenoldeb llwyfan theatrig anhygoel, a, gan bod y cyfan yn eithaf gwahanol i mi, roeddwn i wrth fy modd yn mynd i mewn i'r rôl. Gweithiais ar yr acrobateg lleisiol er mwyn ceisio cael y persona cyfan i mewn i un cynnyrch! Mae mor agos ag y gall fod!
Rwyt ti’n dal y teitl am deyrnged rhif 1 swyddogol y DU i Annie Lennox yn ôl barn yr Agents Association ac rwyt ti wedi cael dy gydnabod gan yr arwr sef Annie Lennox ei hun – sut wyt ti’n teimlo am hyn?
I gantores sy'n gweithio ym myd teyrngedau, dyma'r anrhydedd uchaf! Y goron ar y cyfan byddai cael cwrdd â hi a chael llun gyda hi neu gyda Dave Stewart! Mae Martin Kemp hefyd yn eiriolwr droson ni, ac yn sôn amdanom ni ar radio Greatest Hits a dw i wedi gigio gydag ef! Dywedodd fy mod i'n edrych yn union fel hi ac fe wnaeth fy nghanmol am fy araith wych!
Disgrifia’r sioe mewn tri gair.
Dilys, Hiraethus, Hwyl
Beth yw dy hoff gân boblogaidd gan Eurythmics a pham?
Dw i'n meddwl mai There Must Be An Angel (Playing With my Heart) yw hi. Mae ganddi lais gwych a dw i'n cael gwisgo set anhygoel o adenydd!
A yw aelodau’r gynulleidfa’n cael eu hannog i gyd-ganu a dawnsio?
Ydyn, yn fawr iawn! Rydym yn bendant yn annog pawb i gymryd rhan a chael hwy. Rwyf wrth fy modd yn cynnwys holl aelodau'r band a'r gynulleidfa fel eu bod yn teimlo bod ganddyn nhw brofiad personol i'w gymryd o'r noson.
Gellir gweld Yourythmics ar lwyfan Theatr Torch ar nos Sadwrn 20 Mehefin am 7.30pm. Tocynnau yn: £25. Archebwch eich tocynnau o’r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.