Blog Rhif. 46 - Darcey
Shwmae! Fy enw i yw Darcey ac rwyf wrth fy modd yn chwarae rhan y Forwyn Marian yng nghynhyrchiad yr haf hwn o Robin Hood: The Legend of the Black Knight. Mae'r ymarferion wedi bod yn llawn hwyl ac rwy'n awyddus iawn i bawb weld yr hyn rydym wedi bod yn gweithio arno.
Mae Theatr Ieuenctid y Torch yn lle arbennig i unrhyw berson ifanc feithrin eu hyder wrth ddysgu sgiliau sy'n sicr o'u helpu yn y dyfodol. Mae gan Theatr Ieuenctid y Torch awyrgylch cyfeillgar bob amser! Gan siarad fel aelod o'r Torch ers bron i ddeng mlynedd, gallaf ddweud yn falch mai dyma'r amgylchedd mwyaf croesawgar i mi erioed fod yn rhan ohono. Mae pawb, cyfoedion ac oedolion fel ei gilydd, yn cefnogi ei gilydd ar bob cyfle a roddir gydag ymdeimlad cryf o gymuned.
Er fy mod i'n mwynhau pob agwedd ar ein sesiynau wythnosol, fy hoff ran o ymarferion fu datblygu'r berthnasoedd rhwng cymeriadau. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld y cysylltiadau hynny'n tyfu wrth i ni ddysgu rhagor am bob cymeriad ac arbrofi gyda gwahanol ddewisiadau yn y sesiynau ymarfer. Mae pawb yn dod â'u syniadau eu hunain i'r ystafell ac mae'n gydweithrediad creadigol go iawn. Rwy'n credu y byddai pobl yn synnu faint rydyn ni'n chwerthin yn ystod ymarferion. Wrth gwrs, rydyn ni'n gweithio'n galed iawn ond mae yna bob amser cyfle am ddweud jôcs a chwerthin, sy'n gwneud y profiad cyfan hyd yn oed yn fwy pleserus.
Felly pam ddylech chi ddod i weld y sioe? Mae gan y cynhyrchiad hwn rywbeth i bawb! Mae'n sioe i bob oed, gyda chomedi, troeon yn y plot, ac wrth gwrs, rhamant. Mae'n ddehongliad ffres o'r stori glasurol y mae pawb yn ei hadnabod ac yn ei charu. Allwn ni ddim ag aros i'w rhannu gyda chi! Yn ddiweddar, fe wnes i glywed fy mod i wedi cael fy nerbyn ar y cwrs Llwybrau Proffesiynol gyda Theatr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru. Dim ond 50 o bobl rhwng 16 a 22 oed sy'n cael cynnig lle felly mae'n anrhydedd i mi gael y cyfle hwn.
Mae Theatr Ieuenctid y Torch wedi chwarae rhan mawr iawn wrth fy mharatoi ar gyfer cyfleoedd fel hyn. Mae wedi fy helpu i ddod yn berfformiwr yr ydw i heddiw ac wedi rhoi'r hyder a'r sgiliau i mi ymgymryd â heriau newydd.
Dymuna Theatr Torch ddiolch i'w noddwyr Porthladd Aberdaugleddau am noddi Ieuenctid a Chymuned,a'i noddwr Theatr Ieuenctid, The Ingles Charitable Trust.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.