Blog Rhif. 48 - Puss in Boots
GWNAED Y BŴTS ‘MA I GERDDED ...
Mae pantomeim Nadolig Theatr Torch, sef Puss in Boots (gyda thema’r Gorllewin Gwyllt) ond tri mis i ffwrdd, ac mae Puss ei hun eisoes yn ceisio dal ei chynffon wrth iddi grwydro o amlgylch Sir Benfro yn chwilio am ei bŵts pinc llachar. Fe’u gwelwyd ddiwethaf yn Sioe Sir Benfro ond mae’n ymddangos bod ganddyn nhw feddwl eu hunain ac maen nhw wedi mynd am dro.
Mae Puss yn gwneud apêl daer i bobl Sir Benfro ymuno â hi yn ei hantur gyffrous ...
Credwch chi fyth o hyn, gan fy mod i fel arfer gyda phob blewyn yn ei le, ond rydw i wedi colli fy hoff bâr o fŵts pinc eto ac mae angen eich help chi arna i i ddod o hyd iddyn nhw. Rydw i wedi chwilio ym mhobman o gwmpas Theatr Torch, o'r Caffi i Oriel Joanna Field, ond dydyn nhw ddim i'w gweld yn unman!
Dydw i ddim yn gath gyffredin sy'n hoffi cysgu o flaen y tân, dw i'n chwilfrydig iawn ac yn hoffi archwilio, mewn gwirionedd, dw i dop y tebot fel y pantomeim Nadoligaidd yma yn y Torch. Dw i'n gwybod bod gen i naw bywyd a dydw i ddim yn ofni defnyddio rhai ohonyn nhw yn yr helfa hon am y bŵts pinc.
Gallwch chi cael eich traed o danoch a'm helpu i ddod o hyd i'm bŵts? Efallai y byddaf yn dynn ar eich sodlau wrth i'm bŵts symud o leoliad i leoliad ar draws y sir – o Gastell Penfro i Grymych ac o Hwlffordd i Solfach, rhaid eu dychwelyd yn ddiogel fel y gall y pantomeim, yr wyf wedi rhoi fy nghalon iddo, barhau! Peidiwch â symud o gwmpas, dewch i roi pawen.
Ymunwch â mi wrth i mi droedio’r byrddau'r Nadolig hwn yn Theatr Torch, alla i ddim aros i'ch cyfarfod chi yn fy mŵts pinc.
Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Perfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain: dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Archebwch eich tocynnau trwy'r wefan yn torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.