Blog Rhif. 50 - Sue Lewis

Mae Sue Lewis yn gefnogwr brwd o'r Torch, ac yn ddiweddar daeth i weld The Hound of the Baskervilles. Gan ei bod yn byw dros awr i ffwrdd, nid yw Sue yn byw yn yr ardal, ond mae hi'n teimlo bod y daith i Aberdaugleddau yn werth chweil. Darllenwch ei blog isod ...

Theatr Torch – dyna chi drysor! Wedi'i lleoli yn rhan ne Sir Benfro, mae hi bob amser yn cynnig syrpréisiau theatrig.

Cymerwch y cynhyrchiad diweddaraf, The Hound of the Baskervilles. Comedi sy'n gofyn am sgil corfforol, ac a ddefnyddiodd y nifer lleiaf posibl o bropiau i greu eiliadau a fyddai’n gwneud i chi chwerthin yn uchel. Nid yw’r Torch fyth yn ofni herio rhagdybiaethau – torri'r 'drydedd wal'? Dim problem. Cyfnewid rolau rhwng cymeriadau? Hawdd. Comedi sy'n symud ar gyflymder uchel? Gwyliwch ni.

Yr hyn rwy'n ei hoffi am y Torch yw bod y theatr yn eich croesawu cyn y byddwch yn camu drwy'r drws. Mae mynd i mewn i'r awditoriwm yn creu sefyllfaoedd, gwirioneddol – rydych chi'n gwybod bod chi’n mynd i gael  amser da.

Nid yw Aberdaugleddau yn lle rydych chi’n mynd drwyddi – yn enwedig os ydych chi’n teithio o’r tu hwnt i Linell Landsger – ond mae’r Torch yn gwneud y daith yn werth chweil. Mae parcio (yn wahanol i lawer o drefi yng ngorllewin Cymru) yn syml, mae digon o ddewis o ran bwyd (mae’r caffi yn y Torch yn bendant yn werth rhoi cynnig arno) ac mae’r bobl leol yn bendant yn gyfeillgar.

Sioeau cofiadwy eraill? Un sy’n aros yn y cof yw Kill Thy Neighbour – drama gyflym arall oedd yn delio â mater dyrys ail gartrefi gyda digon o hiwmor du.

A'r pantomeimiau? Trît Nadolig na ddylid ei golli! Mae’n edrych yn debyg y bydd Puss in Boots eleni mor fonesdastig a doniol â’r cynyrchiadau blaenorol.

Archebwch eich tocynnau, dw i’n heidio am y de!

 

 

 

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Dewch i'r Sbotolau!

Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.