Dewch i Gwrdd â Fi ... y ddynes y tu ôl i Wisgoedd Robin Hood ..,

Yn dilyn hyfforddi mewn Senograffi ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna arbenigo mewn Dylunio Theatr gan gwblhau diploma ôl-raddedig yn LAMDA, mae Fi Russell yn ddylunydd theatr proffesiynol gyda dros 15 mlynedd o brofiad. Fis Gorffennaf eleni, hi yw Dylunydd Gwisgoedd Robin Hood: The Legend of the Black Knight, cynhyrchiad gwych gan dros 50 o aelodau Theatr Ieuenctid y Torch.

 

Mae ei huchafbwyntiau dylunio theatr diweddar wedi cynnwys: Set a Gwisgoedd ar gyfer comedi gyflym Le Navet Bete ‘Oh Zeus’ a gweithio gyda’r consurwyr y Great Baldini a Peter Clifford ar y dyluniad ar gyfer ‘The Curious Case of the Masked Magician’ sydd ill dau ar daith o gwmpas y DU ar hyn o bryd. Mae uchafbwyntiau blaenorol yn cynnwys cynyrchiadau 5 seren Exeter Northcott o ‘Romeo and Juliet’ a ‘Commotion Time’, dylunio set a gwisgoedd ar gyfer ‘Hound of the Baskervilles’ yn Theatre by the Lake Keswick (5 seren) a dylunio cynhyrchiad Quirk o ‘Dayzee and the World of Tomorrow’ a enillodd Wobrau Cynaliadwyedd Exeter am ddefnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu bron yn gyfan gwbl ar gyfer y set, y gwisgoedd a’r propiau.

 

Mae Fi wedi cael y fraint o rannu ei gwybodaeth a'i phrofiad; bod yn ddarlithydd mewn dylunio gwisgoedd am ddwy flynedd ym Mhrifysgol Celfyddydau Plymouth a dylunio'r setiau a mentora myfyrwyr mewn peintio golygfeydd a rheoli llwyfan yn Eton hefyd.

 

Darllenwch bopeth am Fi a'i rôl yma yn y Torch y mis hwn ...

 

Eglura yr hyn y mae bod yn Ddylunydd Gwisgoedd yn ei olygu.

Swydd Dylunydd Gwisgoedd yw helpu i adrodd stori, creu'r byd a datblygu cymeriad trwy'r gwisgoedd sy'n cael eu gwisgo ar y llwyfan – golyga hyn bod angen i chi ddeall y sgript yn iawn. Felly, i ddechrau mae llawer o ddarllen a sgyrsiau gyda'r Cyfarwyddwr. Yna mae angen i chi ymchwilio i fyd y ddrama, os yw'n ddrama hanesyddol (fel hon) mae angen i chi edrych ar yr hyn yr oedd pobl yn ei wisgo pan osodwyd y ddrama yn y cychwyn cyntaf. Efallai y byddwch chi'n creu bwrdd hwyliau artistig am fwy o ysbrydoliaeth greadigol hefyd. Ar yr un pryd mae angen i chi wneud rhywfaint o waith gweinyddol i weld faint o gyllideb sydd gennych, a faint o wisgoedd a newidiadau sydd gan bob cymeriad. Fel hyn nid ydych chi'n dylunio rhywbeth y tu allan i'r paramedrau ymarferol. Ar ôl i chi gyflawni hyn, gallwch chi ddechrau lluniadu. Wedi i chi gael y dyluniadau a'u bod nhw wedi'u cymeradwyo gan y Cyfarwyddwr, mae'n bryd dechrau dod o hyd i, addasu a pharatoi'r eitemau ar gyfer y perfformiad.

Beth sy'n dy ysbrydoli pan fyddi di’n dechrau'r broses ddylunio?

Y gynulleidfa. Dw i wrth fy modd yn meddwl am sut y bydd y gynulleidfa'n deall, ac yn ymateb i'r wisg. Er enghraifft, yn y sioe hon rydw i wedi defnyddio diffiniad lliw cryf iawn rhwng y grwpiau cymeriadau i'w gwneud mor hawdd â phosibl i'w dilyn.

Beth yw dy hoff wisg o'r sioe gyfan a pham?

Fy hoff wisg? Mae honno'n gwestiwn anodd. Rydw i wedi mwynhau creu cuddwisgoedd gwirion Will Scarlet gyda Tim (Cyfarwyddwr y Sioe).

Beth sydd wedi bod yn heriol?

Mae 133 o wisgoedd yn y sioe hon, felly mae wedi bod yn her dod o hyd i gynifer o wisgoedd o fewn y gyllideb a gwneud iddyn nhw i gyd fod yn amlwg i aelodau o’r gynulleidfa, wedi'u gwreiddio'n gymeriadau ac yn hwyl.

Pa mor hir mae'r broses ddylunio yn ei gymryd?

Fe wnaethon ni ddechrau misoedd yn ôl, ond nid yw’r gwaith yn barhaus ar y dechrau. Yna, wrth i chi agosáu at y sioe, y mwyaf dwys y daw.

Gyda phwy wyt ti’n gweithio wrth ddylunio gwisgoedd a pha mor bwysig yw cydweithio a chyfathrebu ag eraill?

Byddai’n gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr i lunio'r syniadau a darganfod rhagor am y llwyfannu a'r cymeriadau. Ar y sioe hon, rwyf wedi bod yn ffodus i fod wedi gweithio gyda rhai gwirfoddolwyr cynhyrchu cynorthwyol gwych o'r cast hefyd. Mae'n arbennig bod y cwmni mor awyddus ac ymroddedig a gobeithio y gallaf eu dysgu ychydig ar hyd y ffordd.

Pa mor bwysig yw meddwl am gynaliadwyedd / yr amgylchedd wrth ddylunio ar gyfer y llwyfan?

Mae'n wirioneddol bwysig ac mae wedi'i wreiddio'n llwyr yn fy ngwaith. Rydym yn llogi ac yn benthyca llawer o'r gwisgoedd yn hytrach na phrynu rhai newydd, ac ar ddiwedd y sioe fe fyddwn yn sicrhau nad oes dillad yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Os oedd rhywun am fod yn Ddylunydd Gwisgoedd, sut ddylen nhw fynd ati?

Mae yna rai cyrsiau ysgol drama gwych yn Central, Bristol Old Vic, Coleg Brenhinol Cymru a RADA, yn ogystal â rhai cyrsiau prifysgol gwych fel yn yr Arts University Plymouth, Bournmouth a Wimbledon.

Gellir gweld Robin Hood: The Legend of the Black Knight ar lwyfan Theatr Torch nos Lun 20 Gorffennaf, dydd Mawrth 21 Gorffennaf a dydd Mercher 22 Gorffennaf am 6.30pm. Pris: £10 / £8 consesiynau. Archebwch docynnau drwy’r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.