Casgliad o luniau gan artistiaid o Sir Benfro

 Fis Gorffennaf eleni, bydd Oriel Joanna Field yn Theatr Torch yn arddangos casgliad o luniau gan artistiaid o Sir Benfro sy'n cwrdd yn wythnosol drwy gydol y flwyddyn i fwynhau eu hobi. Mae'r gwaith celf wedi'i ysbrydoli gan bobl leol, lleoedd a thirweddau o bob cwr o'r sir.

Gellir gweld yr artistiaid – a elwir yn ‘Clwb Gwaith Cartref’ – y cyfarfu llawer ohonynt wrth fynd i ddosbarthiadau celf gyda Sir Benfro’n Dysgu, yn aml yn peintio mewn lleoliadau ledled y sir. Ac os nad yw’r tywydd yn eu cefnogi, maent yn mynd dan do i un o’u cartrefi i beintio pynciau bywyd llonydd.

Mae aelodau’r Clwb yn edrych ymlaen at groesawu pobl i’r arddangosfa ac at gasglu eu barn ar y lluniau sy’n cael eu harddangos.

Meddai Paul King, un o’r artistiaid: “Bydd yn dda iawn gwybod beth yw barn pobl sy’n ymweld â’r arddangosfa am y gwaith celf. Rydym wedi ceisio amrywio’r hyn rydym yn ei baentio ac wedi ymweld â lleoedd fel eglwys CastellMartin a Lower Town yn Abergwaun ac rydym wedi creu gwaith sy’n cynnwys tai, pobl, bywyd gwyllt a’n gilydd... mae ein lluniau yn cynnwys pob math mewn gwirionedd.”

Mae llawer o bobl wedi bod yn chwilfrydig am yr hyn maen nhw'n ei wneud, wrth iddyn nhw baentio o amgylch y Sir.

“Gall fod braidd yn frawychus pan fydd pobl yn dod atoch chi ac yn gofyn beth a pham rydych chi'n peintio, ond mae'n cychwyn rhai sgyrsiau ac yn creu ymgysylltiad diddorol. Dydyn ni ddim peintio er mwyn gwneud arian, rydyn ni jyst yn mwynhau ein hunain. Rydyn ni i gyd yn amaturiaid, mae rhai ohonom yn defnyddio inc, pensil neu ddyfrlliwiau ac nid yn aml rydyn ni'n defnyddio olew, ond mae'n hwyl,” ychwanegodd Paul.

Ar ôl arddangos eu paentiadau yn Oriel Joanna Field y llynedd, mae'r grŵp yn awyddus i gael adborth ar eu gwaith. Eleni maen nhw'n gofyn i ymwelwyr am sgoriau ar gyfer y lluniau a’ch sylw cyffredinol. Bydd ffurflen wedi'i llenwi yn cael ei dewis ar hap gyda chyfle i ennill pedwar tocyn sinema Torch.

“Mae'n ffordd o ymgysylltu â phobl, gyda'r nod o ddod o hyd i hoff lun pobl a gweld beth mae unigolion yn ei hoffi mewn gwirionedd a pham. Rwy'n awyddus iawn i wybod beth mae pobl yn ei feddwl am y lluniau,” meddai Paul i gloi.

Gellir gweld yr Arddangosfa Gelf o'r enw Out and About (Most of the Time) yn Oriel Joanna Field, Theatr Torch, Aberdaugleddau drwy gydol mis Gorffennaf yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau. Ewch i'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 am ragor o wybodaeth.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.