Sioe Berffaith Sir Benfro!
Nid yn unig y gwnaeth Prrrudy, Boneddiges Sioe Sirol Theatr Torch, greu argraff ar dorfeydd Sioe Sirol Sir Benfro dros ddeuddydd, ond fe ddiddanodd y miloedd yn y prif gylch hefyd wrth iddi ymuno â'r Kangaroo Kid yn ei anturiaethau beiddgar. Wedi'i leoli ger cylch y gwartheg, roedd stondin Theatr Torch mewn lleoliad delfrydol i ddal dychymyg pawb – plant ac oedolion fel ei gilydd.
Yn ystod y ddau ddiwrnod, roedd bŵts pinc llachar, a oedd yn eiddo i Puss in Boots ei hun, wedi'u cuddio o amgylch maes y sioe, ac nid oedd yn hir cyn i dri o bobl ifanc lleol – Enfys, Catrin a Betsi – eu canfod ar y dydd Mawrth yn stondin Fenton Vets a'u dychwelyd yn ddiogel i ennill tocyn teulu i bantomeim Nadolig Puss in Boots. Cafodd yr esgidiau eu cuddio hefyd ddydd Mercher, ac o fewn hanner awr, roedd Luke o Clarbeston Road wedi'u canfod ar stondin Visit Pembrokeshire. Da iawn i bawb!
“Roedd cystadleuaeth y Puss in Boots yn dipyn o hwyl ac roedden ni wrth ein bodd bod cymaint o bobl wedi mynd ar Helfa’r Bŵts o amgylch y sioe. Rydym yn ddiolchgar i bawb am eu hymdrechion ac i’r stondinwyr am guddio’r bŵts ar ein rhan. Hyrwyddodd y Kangaroo Kid ein cystadleuaeth hefyd ac mae ein Prrrudy yn edrych ymlaen yn arw at fynd ar y beic cwad yn sioe’r sir y flwyddyn nesaf. Roedd hi wrth ei bodd!” meddai Anwen Francis o Dîm Marchnata Theatr Torch.
A chytunodd Chesley Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, fod Sioe Sir Benfro yn un gofiadwy.
“Roedd mynd allan ac o gwmpas yn ein Sioe Sir leol yn wych. Fe wnaethon ni gwrdd â chymaint o bobl hyfryd ac fe wnaethon ni fwynhau sgwrsio am ein sioe deuluol hydref sydd ar ddod The Hound of the Baskervilles a Puss in Boots, ein pantomeim Nadoligaidd eleni. Byddwn ni’n bendant yn ôl yn Sioe Sir Benfro y flwyddyn nesaf i ddifyrru’r tyrfaoedd.”
Gellir gweld Puss in Boots yn Theatr Torch o ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr i ddydd Sadwrn 2 Ionawr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol: 19 Rhagfyr am 2pm. Iaith Arwyddion Prydain: Dydd Mawrth 22 Rhagfyr am 6pm. Gellir gweld The Hound of the Baskervilles ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 7 Hydref i ddydd Sadwrn 17 Hydref gyda Pherfformiad wedi'i ddehongli yn Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mawrth 13 Hydref. Tocynnau o £18. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
Llun: Claire Evans Scritten
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.