Neges Gan Ein Ffrindiau yn Joon Dance
Yn anffodus, rhaid i ni gyhoeddi, am y tro cyntaf ers 2020, a dyma’r ail dro yn unig ers 2010, na fyddwn yn cynnal Ysgol Haf Dawns Joon eleni.
Mae costau rhedeg yr Ysgol Haf wedi dyblu yn ystod y cyfnod hwnnw ac nid yw ein prisiau wedi gwneud hynny. Rydym wedi dibynnu fwyfwy ar gyllid allanol a chefnogaeth mewn nwyddau gan y Torch i ganiatáu i ni greu profiad creadigol o ansawdd mor uchel gan gadw prisiau'n hygyrch i bawb.
Mae llawer o'r gwaith gweinyddol o redeg Joon ar hyd yr amser wedi' iwneud yn wirfoddol. Yn anffodus, nid yw hyn yn gynaliadwy bellach.
Rydym yn cymryd saib wrth i ni ddarganfod beth yw dyfodol y cwmni, gan gynnwys parhau â'n gwaith yn Theatr Torch, yn nhirwedd Sir Benfro, a pherfformiadau gyda'n cymuned.
Rydym yn parhau i obeithio y gallwn ddod o hyd i ffordd ymlaen a dychwelyd gyda model mwy cynaliadwy sy'n caniatáu i Joon Dance barhau am flynyddoedd lawer i ddod. Os hoffech gefnogi'r cam nesaf hwn, byddwn wir yn gwerthfawrogi rhoddion — bydd beth bynnag y gallwch ei roi yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallwch gyfrannu drwy paypal.me/JoonDance.
Byddwn yn gweld eisiau dawnsio gyda chi'r haf hwn a gobeithiwn y byddwch chi'n cael dawns fach beth bynnag, yn eich ceginau, ar draeth, neu fel arall ac yn meddwl amdanom ni.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.