Drws trap, tywod llac a gwely sy'n hedfan!

Bydd The Hound of the Baskervilles – cynhyrchiad hydref Cwmni Theatr  Torch – yn bumed prosiect dylunio i Kevin Jenkins ar gyfer y Torch, ar ôl iddo ddylunio Private Lives, Beauty and the Beast, Jack and the Beanstalk a Rapunzel yn y gorffennol. Mae wedi dylunio nifer o gynyrchiadau i Syr Alan Ayckbourn yn Theatr Stephen Joseph, a bydd yn dychwelyd i Theatr Torch unwaith eto eleni wrth i anhrefn, cliwiau ac anturiaethau cŵn cyffrous gyd-daro yn yr addasiad hynod ddoniol a chyflym hwn gan John Canny a Stephen Nicolson – ni fydd y rhosydd byth, byth yr un fath!

Dim ond tri actor fydd yn rhan o gast The Hound of the Baskervilles – Jessica Dyas, Gareth John Bale a Rick Yale – a byddant yn chwarae nifer o gymeriadau. Bydd nifer anarferol o leoliadau ar y llwyfan, ac mae dylunio'r set a'r gwisgoedd wedi bod yn dipyn o her i Kevin, ond yn her gyffrous hefyd.

“Y man cychwyn mewn gwirionedd oedd sicrhau bod naws yr addasiad hwn wedi’i gydbwyso â chymeriadau eiconig. Mae hefyd yn gyflym, yn chwareus ac yn ddoniol iawn, felly mae angen i’r dyluniad allu symud lleoliad a hwyliau’n gyflym heb arafu’r gweithredu. Mae’r set a’r gwisgoedd wedi datblygu gyda’i gilydd. Mae’r byd Fictoraidd adnabyddadwy yn thema drwyddi draw, ond nid ydym yn canolbwyntio’n ormodol ar realaeth hanesyddol. Mae’n rhaid i bopeth fod yn rhan o’r comedi, yn enwedig, cyflymder y darn,” dywedodd Kevin sydd am i’r trawsnewidiadau ar y llwyfan fod yn rhan o'r hwyl.

Ychwanegodd: “Gan fod yr actorion yn chwarae nifer o gymeriadau, mae’n rhaid i’r gwisgoedd hefyd gyfleu llawer o’r stori yn gyflym iawn. Weithiau, mae angen i het, cot neu un manylyn amlwg ddweud wrth y gynulleidfa pwy yw rhywun bron ar unwaith. Felly, Holmes yn amlwg yw Holmes, ond mae’n perthyn yn benodol i’r cynhyrchiad hwn yn hytrach na bod yn ddynwarediad o Sherlock rhywun arall.”

Mae taclo drama Sherlock Holmes, heb fod yn gefnogwr brwd, wedi rhoi'r rhyddid i Kevin ymdrin â'r byd cyfarwydd â golwg ffres.

Dywedodd Kevin: “Dydw i ddim yn arbennig o hoff o Sherlock Holmes, mewn gwirionedd – rhywbeth efallai sy’n ofnadwy i’w gyfaddef wrth ddylunio The Hound of the Baskervilles! Ond mewn rhai ffyrdd, rwy’n credu bod hynny wedi bod yn eithaf defnyddiol. Wrth gwrs, rwy’n gyfarwydd â’r iaith weledol rydyn ni’n ei chysylltu â Holmes, ond dydw i ddim wedi teimlo’n or-amddiffynnol ohoni. Gallaf ystyried beth sydd angen i’r gynulleidfa ei adnabod a beth gallwn ni arbrofi ag ef. Yn bendant, nid oes gan y fersiwn hon ddiddordeb mewn trin Sherlock Holmes fel gwrthrych amgueddfa.”

Mae cefndir y cynhyrchiad hwn wedi'i ysbrydoli gan baentiadau George Henry Jenkins o Dartmoor. Mae'r rhosdir yn rhoi awyrgylch i'r stori gyfan; mae lliwiau pastel a thonau gwyrdd yn cynnig palet o wyrddion naturiol, brown a llwyd i'r gynulleidfa, ynghyd â chyffyrddiadau o liw grug sy'n rhoi byd cydlynol i'r cynhyrchiad. 

Yn hytrach na cheisio creu tirwedd realistig o Dartmoor ar y llwyfan, roeddwn i am ddefnyddio cefndir mawr wedi'i baentio. Wrth ymchwilio i baentiadau Fictoraidd o Dartmoor, daeth gwaith George Henry Jenkins i'm sylw. Mae ei baentiadau o gyfnod ychydig yn ddiweddarach, ond roeddwn i wrth fy modd gyda'i ddefnydd o liw, golau ac awyrgylch. 

“Fe wnes I greu’r paentiad a ddefnyddiwyd yn y set yn ymateb i’w waith, a’I ddefnyddio fel cefndir golygfaol mawr – delwedd awyrgylchol, ychydig yn fygythiol, sy’n eistedd y tu ôl i’r actio ac mae’n helpu i sefydlu byd y rhosdir.”

Heb ddatgelu gormod, mae drws trap, tywod llac a gwely sy'n hedfan! Ac er nad oedd Kevin am ddatgelu'r cyfan, fe rannodd rai cyfrinachau am y set.

“Efallai na ddylwn i esbonio’n union sut mae unrhyw un ohonyn nhw’n gweithio, oherwydd mae hanner y pleser yn deillio o’u gweld nhw’n ymddangos! Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni’n croesawu technegau llwyfan traddodiadol yn frwdfrydig. Mae pethau’n ymddangos, yn diflannu, yn symud ac yn hedfan, ac mae llawer o’r hwyl yn dod o adael i’r gynulleidfa weld eu bod nhw’n gwylio theatr, yn hytrach na cheisio cuddio pob tric.”

Daeth Kevin i'r casgliad: “Mae'n dipyn o bos, ond dyna hefyd yw un o'r pethau mwyaf pleserus am ddylunio sioe fel hon.”

Gellir gweld The Hound of the Baskervilles ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 7 Hydref i ddydd Sadwrn 17 Hydref, gyda pherfformiad wedi'i gyfieithu i BSL ddydd Mawrth 13 Hydref. Tocynnau o £18. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.