Goresgyn Cyfyngiadau, Rhwystrau a Brwydrau

Fis Mehefin, bydd Let Life Dance, sioe theatr broffesiynol yn swyno cynulleidfaoedd yn Theatr Torch. Disgwyliwch berfformiadau pwerus gan gast o ddawnswyr ag anabledd a rhai heb anabledd sy'n llawn tosturi at ein profiad dynol. 

Y tu ôl i'r sioe mae Humans Move - cwmni dawns proffesiynol cynhwysol sy'n dod i'r amlwg ac sy'n ymdrechu i gael ei arwain gan anabledd. Maent yn dathlu gwahaniaeth ac yn toddi’r rhwystrau i greu’r amodau ar gyfer agor calonnau yn ddiddiwedd. 

Dilynwch daith y cast wrth iddyn nhw ganfod eu ffordd trwy ddyfroedd heriol bywyd o droadau, troelliadau, ymyrraeth ac anhrefn wrth iddyn nhw ddarganfod sut mae cysylltu yn ôl â hwy eu hunain, ei gilydd ac ildio i ddawns gyffrous bywyd.Wedi'i choreograffu gan y coreograffydd gwobrwyedig, Jessie Brett, mae'r sioe hon yn archwilio beth sy'n digwydd pan fydd unigolion yn mynd yn erbyn eu natur eu hunain. Mae’n gofyn sut gall bywyd ddawnsio trwyddom mewn byd sy'n llawn cyfyngiadau, rhwystrau a brwydrau?

“Wedi’i phlethu â cherddoriaeth a gyfansoddwyd gan Jered Sorkin, rydyn ni’n gwybod bod angen pob un ohonom, fel darnau jig-so cymhleth, i greu cydbwysedd yn y byd. Mae rhywbeth i’w ddysgu o bob profiad dynol,” meddai siaradwr ar ran Let Life Dance.

Tocynnau ar gyfer Let Life Dance ar ddydd Mawrth 24 Mehefin am 7pm yn £15 / £14 consesiynau. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.