Dros 50 o bobl ifanc o Sir Benfro a 133 o wisgoedd ...

Dros 50 o bobl ifanc o Sir Benfro, 133 o wisgoedd a phob un wedi'i ffynhonnellu'n gynaliadwy, mae Sioe Ieuenctid Haf Theatr Torch o Robin Hood: Legend of the Black Knight yn un na ddylid ei cholli'r mis hwn. Gyda chefnogaeth gan Borthladd Aberdaugleddau ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ingles, mae gwerthiant tocynnau'n rhuthro allan o'r Swyddfa Docynnau fel Robin Hood ar genhadaeth i helpu'r tlodion....

 

Fi Russell yw Dylunydd Gwisgoedd y sioe y gellir ei gweld ar lwyfan Theatr Torch am dair noson yn unig, o ddydd Llun 20 Gorffennaf tan ddydd Mercher 22 Gorffennaf. Ar ôl hyfforddi mewn Senograffi ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac yna arbenigo mewn Dylunio Theatr ar ôl cwblhau diploma ôl-raddedig yn LAMDA, mae Fi yn ddylunydd theatr proffesiynol gyda dros 15 mlynedd o brofiad.

 

“Mae dros 130 o wisgoedd yn y sioe hon, felly mae wedi bod yn her dod o hyd i gynifer o wisgoedd o fewn y gyllideb a hefyd gwneud yn sicr bod modd adnabod pawb yn iawn, wedi’u gwreiddio’n gymeriadau ac yn hwyl,” meddai Fi sy’n cael ei hysbrydoli gan aelodau’r gynulleidfa.

Ychwanegodd: “Rwy’n dwlu ar feddwl am sut y bydd y gynulleidfa’n deall, ac yn ymateb i’r gwisgoedd. Er enghraifft yn y sioe hon, rwyf wedi defnyddio diffiniad lliw cryf iawn rhwng y grwpiau cymeriadau i’w gwneud mor hawdd â phosibl i’w dilyn.”

Mae uchafbwyntiau dylunio theatr diweddar Fi wedi cynnwys: Set a Gwisgoedd ar gyfer comedi gyflym Le Navet Bete ‘Oh Zeus’ a gweithio gyda’r consurwyr y Great Baldini a Peter Clifford ar y dyluniad ar gyfer ‘The Curious Case of the Masked Magician’ sydd ill dau ar daith o gwmpas y DU ar hyn o bryd. 

“Mae cynaliadwyedd a’r amgylchedd yn bwysig iawn ac mae wedi’i wreiddio’n llwyr yn fy ngwaith. Rydym yn llogi ac yn benthyca llawer o’r gwisgoedd yn hytrach na phrynu rhai newydd, a byddwn yn sicrhau nad oes unrhyw ddillad yn mynd i safleoedd tirlenwi ar ddiwedd y sioe,” meddai Fi i gloi.

Gellir gweld Robin Hood: The Legend of the Black Knight ar lwyfan Theatr Torch ddydd Llun 20 Gorffennaf, dydd Mawrth 21 Gorffennaf a dydd Mercher 22 Gorffennaf am 6.30pm. Pris: £10 / £8 consesiynau. Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.

 

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.