PRIDE & PREJUD(ISH) – Wirioneddol Wych!

Bydd Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno comedi newydd gan Richard Tunley yn serennu  Zoë Davies, Jemima Nicholas, Olivia Edwards a Kate Powell yn Theatr Torch fis Hydref hwn.

Yn dilyn llwyddiant Dai Cula: Prince of the Valleys, mae Black RAT Productions yn ôl gyda chomedi hwyliog lle mae Jane Austen yn dod benben â De Cymru fodern. Mae Lizzie Bennet sy'n methu cael digon ar Austen-a-Bridgerton yn breuddwydio am amseroedd â rhagor o chwaeth– ond mae dal gafael ar y ffantasi'n anodd pan mae ei theulu ar fin chwalu.

Gyda'i Mam yn byw i'r eiliad yn Sbaen, Lizzie sydd â'r cyfrifoldeb gartref wrth i'w chwiorydd fynd ar ddisberod o'i chwmpas. Mae Lydia nawr yn Bridezilla llwyr oherwydd priodas y ganrif, mae Jane yn wynebu anawsterau gyda'i phriodas fregus ei hun, mae Kitty yn bygwth peidio bod yno ar y diwrnod mawr, a Mary? Fe aeth Mary i'r Brifysgol... a dyw hi heb fod yn ôl ers hynny.

Wrth i'r diwrnod mawr brysur agosáu, mae'r tyndra'n codi, mae cyfrinachau'n cael eu datgelu, ac mae balchder y teulu'n dod benben â rhagfarnau modern iawn.

Wedi'i pherfformio ag arddull arferol llawn egni Black RAT, mae'r gomedi gorfforol yma'n wirion o dda! Argymhellir ar gyfer 14+.

PRIDE & PREJUD(ISH), gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ar lwyfan Theatr Torch ddydd Iau 29 Hydref am 7.30pm. Tocynnau £15 / £13. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 / ewch i torchtheatre.co.uk neu gliciwch yma.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.