RACHEL DE WREEDE

“Mae pob darn yn cael ei ysbrydoli gan eiliad mewn amser.

Ni ellir ailadrodd unrhyw ddarn.

Dyma'r 'un o un' gwreiddiol.”

Mae Rachel de Wreede yn dychwelyd i Oriel Joanna Field yn Theatr y Torch gyda’i hail arddangosfa unigol o’i gwaith celf. Yn boblogaidd gydag ymwelwyr â’r Torch bob amser, mae paentiadau haniaethol hardd Rachel yn ddeniadol, yn deimladwy ac yn llawn drama a lliw.

 Ar ôl gorffen ei haddysg yn Sir Benfro, derbyniodd Rachel radd dosbarth cyntaf mewn Celfyddyd Gain o Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn dilyn hyn arddangoswyd ei gwaith mewn nifer o orielau a chyflogwyd hi fel Cynghorydd Celf lle datblygodd ei gwybodaeth fasnachol o’r byd celf. Wedi symud yn ôl i Sir Benfro wyth mlynedd yn ôl, llwyddodd Rachel i ddilyn ei breuddwyd i fod yn artist.

Disgrifia Rachel ei gwaith yn “anoddrychol a mynegiannol iawn o ran ystum a lliw. Maen nhw’n weithiau unigryw na ellir eu hailadrodd, yn baentiadau sy’n plesio’r llygad ac yn gwneud i’r gwyliwr gwestiynu pob cyfuniad siâp a lliw. Yn y pen draw, rwyf am i chi deimlo rhywbeth. Does dim cywir nac anghywir, dim ond y cwestiwn o sut mae celf yn gwneud i chi deimlo yn yr eiliad honno.”

Aiff ymlaen i esbonio: “Mae paentio greddfol yn ffordd greadigol o ailgysylltu â chi'ch hun. I mi nid yw'n ymwneud â chreu darn sy'n edrych fel rhywbeth - mae'n ymwneud ag archwilio ac esblygiad fy steil. Mae'n ofod lle gallaf ildio rheolaeth a bod yn y foment.

“Dechreuir pob darn gan ragweld yr hyn a gynhyrchir. Rwy’n gwybod pa liwiau sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ac rwyf wedi mireinio fy nhechnegau peintio; er hynny, dw i byth yn gwybod sut olwg fydd ar y darn gorffenedig - sy'n gyffrous ac yn frawychus ar yr un pryd.

“Mae mynegi fy hun trwy gyfrwng paent yn rhyddhad - cynhyrchu rhywbeth diriaethol o'r hyn a deimlais yn y foment honno, heb ddefnyddio geiriau. Mae'n therapiwtig diffodd eich meddwl i'r sŵn beunyddiol ac edrych i mewn yn ystod y broses greadigol hon. Mae sefyll yn ôl a gweld y darn gorffenedig yn therapi i mi.”

 Bydd Arddangosfa Unigol Rachel ar gael i’w gweld o’r Noson Agoriadol am 6pm ar 5 Mai, tan 30 Mai 2023, yn ystod oriau agor Swyddfa Docynnau’r Torch.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.