Bydd digon o ddawnsio yn y coridorau!
Ydych chi'n hoff o gerddoriaeth o’r 50au a'r 60au? Os felly, edrychwch dim pellach na Theatr Torch fis Tachwedd hwn, wrth i'r sioe hynod boblogaidd Rave On gyrraedd ei llwyfan. Gan olrhain y cynnydd cyflym a syfrdanol Roc a Rôl, mae'r sioe yn daith gyffrous drwy ddegawdau mwyaf chwyldroadol cerddoriaeth.
Paratowch i gael eich swyno gan noson o ganeuon poblogaidd un ar ôl y llall, gwisgoedd bywiog o’r cyfnod, llwyfannu lliwgar a digon o ddawnsio yn y coridorau!
Yn cynnwys fersiynau perffaith o’r caneuon mwyaf annwyl o’r 50au a’r 60au, perfformir Rave On gan grŵp o gerddorion ifanc hynod dalentog sy’n angerddol am y cyfnod hwnnw. O ddyfodiad Roc a Rôl yn Sun Records ym Memphis, Tennessee, i’r ‘Goresgyniad Prydeinig’ a thu hwnt, mae hwn yn antur gerddorol na fyddwch am ei cholli.
Mae Rave On yn cynnig caneuon enwog gan Elvis Presley, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, Connie Francis, Neil Sedaka, Little Richard, Roy Orbison, Lulu, The Beach Boys a nifer o rai eraill. Mae Rave On yn brofiad cerddorol unigryw, gyda pherfformwyr blaenllaw o gynyrchiadau'r West End The Buddy Holly Story, Million Dollar Quartet a Dreamboats & Petticoats, ac mae’n eich cludo yn ôl i’r 50au gwych a’r 60au bywiog, mewn arddull sy’n syfrdanol o ddilys.
Gellir gweld Rave On – The Ultimate 50s and 60s ar lwyfan Theatr Torch ddydd Sadwrn 24 Hydref am 6pm. Tocynnau £25. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.