Nos Galan Gaeaf Gwych ar Fferm Mossy Bottom ...

Mae pawb yn edrych ymlaen at Nos Galan Gaeaf ar Fferm Mossy Bottom - nes i'r Ffermwr trwsgl chwalu clwt pwmpen annwyl y Praiddl! Ond pan mae Shaun the Sheep yn troi'n Wyddonydd Gwallgof i ddatrys y broblem, mae pethau'n mynd allan o reolaeth yn gyflym. Theatr Torch, Aberdaugleddau yw Y lle i fod ym mis Hydref lle mae'r holl gynhwysion yn eu lle ar gyfer antur anhygoel o hwyl i'r teulu ... gyda The Beast of Mossy Bottom!

“Dyma ffilm deuluol ragorol arall, yn llawn dop – fel arfer – o jôcs gweledol gwych, cyfeiriadau achlysurol clyfar ac, wrth gwrs, dyfais ‘Heath Robinson’ wedi’i gwneud gartref, sydd mor aml i’w gweld yn ffilmiau Aardman,” eglurodd Peter Bradshaw o *The Guardian*.

Ychwanegodd: “Mae’n fath o stori garu, efallai braidd yn debyg i stori ‘Beauty and the Beast’, ond yn ymwneud â dau berson nad ydyn nhw, am y rhan fwyaf o’r stori, yn gwybod eu bod nhw’n mynd i syrthio mewn cariad. O ran y defaid, mae eu hwynebau’n cyfleu mynegiadau a hwyliau hynod wahanol drwy ddefnyddio dim ond ychydig o symudiadau medrus. Mae’n sydyn, yn glyfar, yn ddoniol ac yn fanwl gywir; does dim byd ‘gwlanog’ na digon clir yn ei gylch.”

Rhoddodd Screendaily.com adolygiad cadarnhaol hefyd, gan ddisgrifio'r ffilm hwyliog i'r teulu fel un sy'n “llawn jôcs, gyda chyfeiriadau at ddiwylliant poblogaidd a chymeriadau hyfryd.”

"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at eich croesawu i'r dangosiadau o "The Beast of Mossy Bottom!" Does dim eisiau ni i dynnu gwlân dros eich llygaid, mae hon yn ffilm wych - yn wirioneddol faaaa-ndigedig - y byddwch wrth ei bodd â hi," meddai Anwen Francis o adran farchnata Theatr Torch.

Gellir gweld The Beast of Mossy Bottom (U), ar sgrin Theatr Torch o nawr tan ddydd Mercher 28 Hydref. Pris tocyn: £7.50 | £7.00 Consesiynau | £6.00 U16 | £24.00 Teulu. Dangosiad Amgylchedd Hamddenol ar 11 Hydref a dangosiad gydag is-deitlau ddydd Mawrth 27 Hydref. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.