Ysgolion Haf Theatr Torch yn ôl!

Mae ysgolion haf poblogaidd Theatr Torch yn dychwelyd fis Gorffennaf ac Awst eleni. Maen nhw'n cynnig pythefnos yn llawn hwyl greadigol i bobl ifanc o saith hyd at 18 oed, a chan fod lleoedd yn gyfyngedig iawn maen nhw am i bawb wybod beth sy'n digwydd cyn iddyn nhw i gyd fynd!

Mae'r Ysgolion Haf wedi'u rhannu'n gategorïau oedran gyda Heroic Tales ar gyfer plant 7 i 11 oed a Playmakers ar gyfer plant 11 i 18 oed. Dros y blynyddoedd, mae nifer o aelodau Theatr Ieuenctid y Torch wedi cymryd rhan yn y sesiynau, gan gynnwys Zane sy'n dweud eu bod nhw'n wych.

“Mae’n gyfle gwych i bawb – gan gynnwys pobl sy’n newydd i Sir Benfro neu sydd ar wyliau – i fynd iddyn nhw neu gael blas ar Theatr Ieuenctid y Torch. Mae oedolion ifanc yn cael cwrdd â phobl o bob cefndir a thrafod pynciau neu syniadau na fyddent wedi cael y cyfle i wneud hynny fel arall,” meddai Zane a fydd yn cymryd rhan yn sioe Haf Theatr Ieuenctid y Torch – Robin Hood: The Legend of the Black Knight fis Gorffennaf eleni.

Bydd sesiynau Heroic Tales yn cael eu cynnal yn ddyddiol o 10am i 3pm, o ddydd Llun 27 i ddydd Gwener 31 Gorffennaf. Gofynnir i'r bobl ifanc greu a pherfformio eu drama eu hunain yn seiliedig ar stori lle mae llyfrgell yn dod yn FYW pan fydd y goleuadau'n diffodd a'r drysau'n cael eu cloi. Ond wrth i lai o bobl eu benthyca, mae'n rhaid iddyn nhw wynebu arswyd y bin ailgylchu! I achub eu straeon mae'n rhaid i'r llyfrau chwilio am ysbrydoliaeth ar eu tudalennau eu hunain, a lansio cenhadaeth arwrol cyn i'w pennod olaf gael ei rhwygo.

I’r bobl ifanc hŷn, bydd eu Hysgol Haf yn canolbwyntio ar ddysgu drama mewn wythnos! Mae The Torch wedi dewis drama gyfoes a ysgrifennwyd ar gyfer pobl ifanc, gyda themâu a chymeriadau y byddant yn eu hadnabod yn eu bywydau eu hunain. Bydd pobl ifanc yn cael eu tywys trwy broses ymarfer proffesiynol o ddarllen o amgylch bwrdd ar y diwrnod cyntaf i berfformiad terfynol mewn dim ond un wythnos! Cynhelir Playmakers rhwng 10am a 4pm, dydd Llun 10 tan ddydd Gwener 14 Awst.

Mae Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch, sy’n esbonio rhagor:

“Mae ysgolion haf Theatr Torch yn uchafbwynt gwirioneddol i’n blwyddyn, ac rydym yn gyffrous iawn am yr hyn sydd ar gael eleni. Mae datblygiad y bobl ifanc yn ganolog i’r ddwy ysgol, ac yn sicrhau nad yn unig y byddant yn cael amser creadigol, ond eu bod yn datblygu sgiliau cymdeithasol pwysig, gwaith tîm a hunanwerth - a’r peth gorau amdano yw nad oes angen profiad blaenorol!”

Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267. Neu am sgwrs am yr Ysgolion Haf neu Theatr Ieuenctid y Torch e-bostiwch tim@torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.