Dyfarnu Tair Seren Michelin i Tony! Rhagor, plȋs!

 Heno (Nos Iau 17 Medi) fydd eich cyfle olaf i weld *Tony* (15) ar sgrin Theatr Torch. Wrth i Anthony Bourdain, sy'n 19 oed, deithio i Provincetown, mae'n cael ei daflu i fyd cythryblus cegin mewn bwyty – gan gychwyn haf a fydd yn llywio trywydd ei fywyd. Aeth ein hadolygydd cymunedol, Val Ruloff, i weld y ffilm hon sy'n hwyliog, yn gynnes ac yn hynod swynol. Darllenwch ei hadolygiad brwdfrydig isod...

Mae "Tony" yn gadael blas parhaol a melys-chwerw sy'n hir-aros. Fe wnaeth y ffilm greu awydd ynof am ragor o'r prif gwrs – y pryd unigryw hwnnw sef Mr Anthony Bourdain, testun "Tony". Roedd yn enwog ledled y byd fel cogydd, yn deithiwr ac yn awdur ar ddiwylliant bwyd a glodforwyd yn fawr, ac roedd ganddo ei gyfresi teledu hynod lwyddiannus ei hun, gan gynnwys "No Reservations" a "Parts Unknown".

Ychydig iawn a wyddwn am y dyn hynod ddiddorol hwn cyn hyn. Mae'r ffilm yn rhannol seiliedig ar hanes ei fywyd, ac yn canolbwyntio ar gyfnod o haf yn Cape Cod, pan oedd Anthony Bourdain yn 19 oed ac yn dal i gael ei adnabod fel "Tony".

Gadawodd etifeddiaeth barhaol ar ôl ei farwolaeth yn 2018, etifeddiaeth a nodweddid gan ei nodweddion unigryw a'r ddelwedd afaelgar o "blentyn gwyllt" – "seren roc" byd coginio.

Matt Johnson yw'r cyfarwyddwr, yn ogystal â bod yn gyd-awdur ochr yn ochr â Todd Bartels, Lou Howe a Matthew Miller. Mae'r ffilm wedi'i chastio'n dda, gyda chymeriadau wedi'u llunio'n fedrus. Cyflwynir y rolau drwy berfformiadau syfrdanol ac eithriadol gan Dominic Sessa fel Tony ac Antonio Banderas fel y Cogydd. Cefnogir y prif actorion yn rhagorol gan Emilia Jones fel Nancy a Leo Woodall fel Sal; mae Stavros Halkias yn ymddangos fel Stavros, Michael Jibrin yn chwarae rhan Tyrone, a Rich Sommer a Dagmara Dominczyk yn chwarae rhieni Tony.

Mae'r golau a'r ffotograffiaeth yn dal golygfeydd hardd Cape Cod yn hyfryd. Mae'r cyfnod yng nghanol y saithdegau yn bleser – ac fe'i portreadir yn effeithiol ac yn fynegiannol iawn.

Cyflwynir sylwadau – a wnaed yn wreiddiol gan Anthony Bourdain amdano'i hun – ar ddechrau'r ffilm, heb gadw dim yn ôl.

Yn wir, dyrnau sy'n cael eu bwrw – yn llythrennol.

Wrth i'r stori ddatblygu, gwelwn Tony yn crwydro'n lletchwith ac yn ddi-nod, wrth iddo geisio dod o hyd i'r cyfeiriad y mae'n credu y bydd ei lwybr yn ei gymryd nesaf. Mae'r golygfeydd a'r profiadau a ddaw yn ei sgil yn fyw ac yn ddwys – gwelir ef yn aml iawn mewn sefyllfaoedd sydd ymhell o fod yn rhai gogoneddus. Eto i gyd, ceir naws drist a chyffrous, a llwydda Tony i ddangos ei ochr fregus. 

Mae rhai o'r golygfeydd yn hynod emosiynol ac yn llawn hiwmor. Caiff Tony ddeffroadau digon garw – diolch i ddull unigryw y Chef o ddeffro pobl - galwadau deffro ar eu gorau. Yng nghanol yr holl gamgymeriadau a'r anhrefn – ac yn y sefyllfaoedd mwyaf annhebygol – mae Tony yn dod o hyd i'w le ac yn gwneud y darganfyddiad rhyfeddol hwnnw sy'n dod yn ysbrydoliaeth iddo; ysbrydoliaeth sy'n llenwi ei fywyd ac yn ei ysgogi'n llwyr.

Bellach, mae ar ei ffordd i astudio yn y C.I.A. – na, nid yr un hwnnw – y sefydliad coginio. Mae'n mynd â llythyr argymhelliad gan y Cogydd gydag ef, a astudiodd yno hefyd.

Mae rhagluniaeth wedi ymyrryd – yn Provincetown.

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.