90 Munud o Ganu Gyda’n Gilydd a Thipyn o Hwyl!
Mae Lleisiau’r Torch (Torch Voices), yn ôl yma yn Theatr Torch!
Rydyn ni’n meddwl ei bod hi’n bryd i ni gyd gyfaddef bod pob un ohonom wrth ein bodd â chanu da (hyd yn oed os yw yn y gawod), ac rydyn ni’n gwybod mai Côr Cymunedol dros 18 oed Theatr Torch yw’r lle perffaith i chi ddod i ymarfer eich sgiliau canu!
Dewch i ymuno â ni ac arweinydd y côr Angharad Sanders, cyfarwyddwr corawl profiadol, bob nos Iau rhwng 6pm a 7.30pm. Nid oes clyweliad, ac mae croeso i bawb.
Roedd Anwen dal angen peth perswâd i roi ei meicroffon brwsh gwallt i lawr ac ymuno â’r côr, felly cafodd sgwrs ag Angharad i weld beth yw pwrpas Lleisiau’r Torch…..
Yn gyntaf oll, beth all pobl ei ddisgwyl gan Lleisiau’r Torch?
Lot o hwyl, ni'n chwerthin lot! Rydym yn gweithio ar dechneg lleisiol trwy sesiynau cynhesu hwyliog sydd wedi'u teilwra i gefnogi techneg a chryfder y llais. Yr aelodau eu hunain sy’n dewis y gerddoriaeth rydym yn ei chanu, a thra bod papurau cerdd yn cael eu darparu, nid oes angen darllen cerddoriaeth na chlyweliad i ymuno. Dim ond lle ydyw i ddod i ganu eich hoff gerddoriaeth mewn harmoni hyfryd gyda’r grŵp.
Ar gyfer pwy mae sesiynau Lleisiau'r Torch?
Unrhyw un sydd am greu cerddoriaeth wych a chael ychydig o hwyl.
Ydych chi'n perfformio y tu allan i'r Torch?
Rydym wedi perfformio mewn pob math o lefydd yn y gorffennol – ar y Marina, ym Maenordy Scolton, yn y Stiwdio Theatr ac ar gyfer Pencampwriaethau Rhwyfo’r Byd. Ar hyn o bryd rydym yn perfformio’n bennaf yn y bar cyn nosweithiau’r wasg a gwesteion, yn ogystal â pharatoi caneuon a fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gynhyrchiad nesaf Theatr Ieuenctid y Torch, Wind In The Willows.
Nawr rydyn ni wedi clywed ychydig am y sesiynau a beth rwyt ti’n ei wneud, fedri di ddweud ychydig mwy amdanat ti, ers pryd wyt ti wedi bod yn arwain Lleisiau'r Torch?
Cysylltais â Peter Doran (y Cyfarwyddwr Artistig blaenorol yn y Torch) yn 2019 ynglŷn â chynnal grŵp canu yma yn y Torch. Roedd yn garedig iawn a rhoddodd le i mi ddechrau a thyfu'r grŵp. Bûm yn trafod enw’r grŵp yn fanwl iawn a phenderfynu Lleisiau (Voices), gan ein bod am iddo fod yn gwbl hygyrch ac yn agored i bobl sydd wrth eu bodd yn canu. Pan darodd Covid, symudon ni ar-lein am bron i ddwy flynedd, ond rydw i'n wirioneddol ddiolchgar i'r aelodau am barhau i ganu a mewngofnodi’n wythnosol. Dychwelon ni i’r stiwdio ar ôl fy absenoldeb mamolaeth yn 2022, ac ers Ionawr 2023 mae’r côr wedi ymarfer bob nos Iau, gan ddod yn grŵp 18 oed a hŷn. Gallwch ymuno â ni am dymor neu alw heibio a rhoi cynnig ar un o’n sesiynau galw heibio, heb fod angen ymrwymiad hirdymor.
Dyweda tamaid wrtho ni am dy brofiadau canu.
Hyfforddais ym Mhrifysgol Huddersfield a Choleg Cerdd Leeds, ac rwyf wedi gweithio’n gynhyrchiol ym myd addysg a pherfformio proffesiynol mewn genres amrywiol. Fel arweinydd corawl, rydw i wedi gweithio gyda’r Military Wives Choir (Northolt) ers nifer o flynyddoedd, ochr yn ochr â Chôr Cymunedol Lichfield Garrick a Chôr Cymunedol Gelliswick.
Mae fy nghredydau theatrig yn cynnwys “Madagascar” (taith ryngwladol) yn ogystal â gwaith mwy lleol gyda Saundersfoot Footlights a’u cynhyrchiad sydd i ddod o “The Addams Family”. Fel cantores, rwyf wedi perfformio gydag ensembles amrywiol mewn lleoliadau ar draws y wlad, gan gynnwys fel unawdydd piano/lleisiol ac wedi ymddangos mewn lleoliadau ar draws Sir Benfro. Rwyf hefyd wedi gweithio fel cantores sesiwn, yn ysgrifennu, yn trefnu ac yn perfformio deunydd ar gyfer llawer o gontractau amrywiol. Rwy’n angerddol am weithio gydag artistiaid ifanc a thalent sy’n dod i’r amlwg ac ar hyn o bryd rwy’n cynnig gwersi canu un i un a grŵp yn Sir Benfro, o dan faner “Limelight School of Performing Arts”.
Yn olaf, a oes neges ‘da ti i’r rheiny sy’n meddwl am ymuno â Lleisiau’r Torch?
Dere draw ac ymuna ‘da ni! Gall fod yn brofiad gofidus ymuno â grŵp newydd, ond rydym yn hwyl ac yn gyfeillgar, ac wrth ein bodd yn canu.
Ac os oes angen mwy o berswâd arnoch chi, gallwn eich sicrhau - bod cerddoriaeth yn dda i'r enaid yn ogystal â’r meddwl a'n llesiant.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Yn y Sbotolau!
Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.