Hwyl a helyntion, anturiaethau aflwyddiannus ac anhrefn ...

Gwahoddodd Theatr Torch un o'i hadolygwyr cymunedol, Val Ruloff, i sesiwn ddarllen ei chynhyrchiad hydrefol – *The Hound of the Baskervilles* – ac fe fwynhaodd hi'n fawr! Darllenwch ei hadolygiad isod...

Carnau yn carlamu, ar draws y rhostirooooedd​, o amgylch y gors​,

Mae'r sgript yn rasio ymlaen - "tynnu coes" a jôcs yn dilyn ei gilydd yn gyflym.

Mae dirgelwch a "chamddealltwriaethau clasurol" sy'n ailadrodd yn ddi-baid, ymddygiad gwallgof, hwyl a helyntion, anturiaethau aflwyddiannus ac anhrefn oll yn rhan o'r gymysgedd fywiog hon.

Mae Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig y Torch, wedi canfod enillydd sicr yn yr addasiad hwn gan Stephen Canny a John Nicholson o stori glasurol Syr Arthur Conan Doyle - The Hound of the Baskervilles. Rwyf wedi dod i’r casgliad bod y cast yn ddetholiad rhagorol o ddarnau cnawdol - yn addas i gi llwglyd iawn eu difa mewn un llwnc. Hynny yw, pe na baent mor gyflym wrthi.

Gareth John Bale, Artist Cyswllt y Torch, fydd yn chwarae rhan Sherlock Holmes – rôl sy’n wahanol iawn i’w berfformiad blaenorol, rhyfeddol a gwobrwyedig fel Raymond Gravell yn "Grav". Rick Yale yw’r wyneb newydd cyffrous ar lwyfan y Torch, ac fe fydd yn chwarae rhan Syr Henry Baskerville. Yna mae Dr Watson, a chwaraeir gan Jessica Dyas – ffefryn mawr yn y Torch ers iddi gael llwyddiant ysgubol fel Mother Gothel ym pantomeim y Torch, ‘Rapunzel’.

Mae perfformiadau gwych ac eithriadol i’w gweld yn glir iawn yn barod – hyd yn oed yn ystod y cam cynnar hwn! Mae angen amlochredd – ac mae’r actorion yn ei ddarparu – wrth iddyn nhw ymgymryd â nifer o rolau. Mae Gareth John Bale yn chwarae rhannau Mr a Mrs Stapleton, "Slasher" Seldon – a mwy! Gwnaeth y cast cyfan ymddangosiad cyntaf trawiadol a rhugl yn y sesiwn ddarllen. Mae’r sgript yn rhuthro yn ei blaen fel ci yn hela cwningen! Mae digonedd o ymatebion cyflym a deialog i ymdopi â nhw ac i suddo eu dannedd ynddynt!

Mae’r awyrgylch eisoes yn llawn tensiwn, fel ci sy’n codi ar ei goesau ôl ac ar fin neidio! Mae’r amseru yn hollbwysig – ac mae’n feistrolgar.

Mae’r rhyngweithio a’r dealltwriaeth rhwng aelodau’r cast yn bleser pur. Rydym yn cychwyn ar daith sy’n cynnwys comedi ffars yn yr ystafell wely, slapstic, golygfeydd arbennig, hwyl a sbri, yn ogystal â bygythiadau rhyfedd ac anodd eu hanwybyddu, a chyffro a digwyddiadau dramatig. Mae’r propiau, y setiau, y cefndiroedd a’r gwisgoedd wedi’u dylunio’n glyfar ac yn addo pethau gwych!

Nid llanast llwyr yw’r cynhyrchiad hwn o bell ffordd. Gwledd wirioneddol o hwyl ydyw – digon i wneud i’r gynulleidfa chwerthin nes eu bod yn rholio yn yr eiliau!

 

 

 

CYLCHLYTHYR THEATR TORCH

Yn y Sbotolau!

Ydych chi am fod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw, a'r digwyddiadau y tu ôl i'r llenni yn Theatr Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.