Cyfarfyddiad dyn â morfil gwyn mawr
Mae gan Aberdaugleddau hanes cyfoethog o ran hela morfilod at ddibenion masnachol, ac yn fwy diweddar, mae’n gysylltiedig â gwylio bywyd gwyllt morol – lle gwelir morfilod mawr yn hela ac yn bwydo oddi ar arfordir Sir Benfro. Fis Tachwedd eleni, mae 20th Century Studios ac Imagine Entertainment yn parhau â’r thema ‘morfilod’ drwy ddod â “Whalefall” i sgrin Theatr Torch.
Mae’r ffilm gyffrous ac emosiynol hon am oroesi – sy’n epig o ran ei natur ac wedi’i chyfarwyddo gan Brian Duffield – yn ymwneud â chyfarfyddiad rhwng dyn ifanc a morfil gwyn anferthol, ac mae wedi cael adolygiadau cymysg. Mae Benjamin Lee o The Guardian wedi rhoi dwy seren i’r ffilm, ac yn nodi bod ganddi “sglein stiwdio ddestlus,” tra bod Weniel Ma ar wefan Rotten Tomatoes yn dweud ei bod yn ffilm sy’n “braf ei gweld” yn hytrach na ffilm y mae’n “rhaid ei gweld”; er hynny, mae nifer o adolygwyr eraill yn rhoi pum seren iddi.
Yn dilyn marwolaeth ei dad (Josh Brolin), mae Jay Gardiner (Austin Abrams) yn plymio oddi ar arfordir canolog Califfornia i chwilio am ei weddillion, ond caiff ei lyncu gan forfil gwyn mawr iawn. Tra mae wedi’i gaethiwo y tu fewn i’w fol, a dim ond awr o ocsigen ar ôl, daw Jay i sylweddoli y gallai’r gwersi gwerthfawr a ddysgodd gan ei dad fod yn allweddol i’w ryddhad.
Ychwanegodd Benjamin Lee: “O ystyried y llif o ffilmiau am siarcod eleni, llwydda Whalefall i ddangos yn effeithiol bod modd dod o hyd i ddrama mewn mannau eraill yn y dŵr. Mae arswyd annaturiol y sefyllfa yn aml yn hynod o effeithiol – ac yn anodd ei wylio (asid stumog yn llosgi dwylo, a môr lawes a lyncwyd ar yr un pryd yn creu anhrefn ychwanegol gyda’i thentaclau).
Gellir gweld Whalefall (15) ar sgrin Theatr Torch ddydd Gwener 6 Tachwedd am 7.45pm, dydd Sul 8 Tachwedd am 7pm, dydd Mawrth 10 Tachwedd am 7.30pm a dydd Iau 12 Tachwedd am 7.45pm. Tocynnau: Teulu: £24. Gostyngiadau: £7.00. Pris llawn: £7.50. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk am ragor o wybodaeth.
CYLCHLYTHYR THEATR TORCH
Dewch i'r Sbotolau!
Eisiau bod y cyntaf i glywed am berfformiadau sydd ar ddod, cynigion tocynnau unigryw a'r hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni yn Theatr y Torch? Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr a gadewch i'r ddrama ddod atoch chi.