SÊR RESLO CYMRU YN Y TORCH

O Fae Trecco i Faglan ac o Gwmbrân i Aberdaugleddau, mae Sêr Reslo Cymru (Welsh Wrestling) ar daith o amgylch y wlad ac yn paratoi i herio unwaith eto! Byddan nhw'n dod â'u sioe adloniant teuluol fyw sy'n herio’r corff i Theatr Torch, Aberdaugleddau, am noson fawr na fyddwch chi eisiau ei cholli!

Ers ei sefydlu yn 2005, mae Reslo Cymru wedi cadarnhau ei statws fel  prif hyrwyddwyr reslo yng Nghymru, ac yn cynnal sioeau reslo o'r ansawdd uchaf ledled y wlad mewn rhai o'r lleoliadau a'r theatrau mwyaf mawreddog. Drwy gydol y flwyddyn mae Sêr Reslo Cymru yn perfformio o flaen miloedd o gefnogwyr, ac yn sicrhau noson allan hwyliog, llawn cyffro, i bawb o bob oed.

Dewch i weld yr extravaganza reslo yn y Torch sy'n siŵr o gael plant (ac oedolion) i weiddi a bloeddio dros eu hoff reslwr a chreu atgofion a fydd yn para oes. Galwch heibio i'r Torch a gweld yr anhrefn a'r hudolusrwydd yn yr arddangosfa hon o adloniant ac athletiaeth mewn noson deuluol gofiadwy.

Mae tudalen Facebook Reslo Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ei thaith dros y wlad gydag adborth cadarnhaol gan sawl aelod o’r gynulleidfa, gydag un yn cael ei ddyfynnu’n dweud:

“Am noson wych. Roedd fy nau ŵyr wrth eu bodd gyda phob munud o’r sioe. Mae’n wych ac wedi’i chynllunio gyda theuluoedd mewn golwg. Byddaf yn argymell hon yn fawr i holl ffrindiau a theulu. Diolch am noson arbennig!”

Bydd Reslo Cymru yn fyw yng nghylch reslo Theatr Torch ddydd Sul 17 Mai am 4pm. Prisiau tocynnau: Oedolyn: £15. Plentyn: £12. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 / ewch i torchtheatre.co.uk neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.