Campwaith Oesol Tennessee Williams

Bydd cefnogwyr Tennessee Williams, Arthur Miller, Edward Albee, Harold Pinter a dramodwyr clasurol eraill y mae eu gweithiau'n archwilio emosiynau dynol a pherthnasoedd cymhleth yn mwynhau A Streetcar Named Desire ar sgrin fawr Theatr Torch fis Mehefin. Gan y cyfarwyddwr gweledigaethol, Benedict Andrews, ffilmiwyd y cynhyrchiad clodwiw hwn yn fyw yn ystod rhediad a werthodd bob tocyn yn Theatr Young Vic yn 2014.

Gillian Anderson (Sex Education), Vanessa Kirby (The Crown), a Ben Foster (Lone Survivor) sy’n arwain y yng nghampwaith oesol Tennessee Williams, sy’n dychwelyd i sinemâu ac sy'n gweld byd bregus Blanche yn chwalu wrth iddi droi at ei chwaer Stella am gysur - ond mae ei throell ar i lawr yn ei dwyn wyneb yn wyneb â Stanley Kowalski creulon ac anfaddeuol.

“Bydd A Street Car Named Desire, un o’r dramâu a gafodd fwyaf o glod gan y beirniaid yn yr 20fed ganrif, yn cael ei rhyddhau i’w dangos mewn sinema ddydd Iau 5 Mehefin ac mae Theatr Torch wrth ei bodd yn dangos y ddrama’r un noson â’i rhyddhau rhyngwladol. Mae’n dal i gael ei graddio fel un o’r dramâu a berfformir fwyaf ers iddi agor gyntaf yn Conneticut yng ngaeaf 1947,” eglurodd Anwen Francis o dîm marchnata Theatr Torch.

Y cynhyrchiad a werthodd gyflymaf yn hanes y Young Vic, mae wedi derbyn canmoliaeth feirniadol ac adolygiadau 5 seren. Mae'n un o deitlau mwyaf poblogaidd NT Live ac mae wedi cael ei wylio gan 1.2 miliwn o bobl ledled y byd. Wedi'i ddisgrifio gan yr Evening Standard fel "Gafaelgar. Mae Gillian Anderson yn anhepgor," ac fel "perfformiad o'r radd flaenaf gan Vanessa Kirby fel Stella. Mae Gillian Anderson yn gwbl gymhellol," gan y Guardian, mae'n rhaid ei gweld.

Gellir gweld NT Live: A Streetcar Named Desire ar sgrin fawr Theatr Torch ar nos Iau 5 Mehefin am 7pm.

Prisiau tocynnau: £15 / £13 consesiynau a £8.50 dan 26. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 /  ewch i torch theatre.co.uk neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.