Gweithiau'n Seiliedig ar Dirwedd Leol ger Tyddewi

Bydd arddangosfa gan yr artist amatur o Gymru, Emma Bowen, sy'n byw ar benrhyn Tyddewi, yn agor yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch, Aberdaugleddau ddydd Sadwrn 2 Awst 2025. Mae'r arddangosfa o'r enw, Surrounded by Sea, yn gasgliad o weithiau’n seiliedig ar dirwedd leol Emma ger Tyddewi.

Wedi'i amgylchynu i'r gogledd, y gorllewin a'r de gan y Môr Celtaidd, mae'r penrhyn yn darparu ysbrydoliaeth ddiddiwedd, gydag Emma yn mynd i'r traeth neu lwybr yr arfordir bob dydd i archwilio, tynnu lluniau a chreu brasluniau, y mae hi wedyn yn eu defnyddio i ail-greu'r golygfeydd yn ei phaentiadau. Gan weithio'n bennaf mewn acrylig, ond gydag awgrymiadau o inc, pastel a chludwaith, mae Emma'n deffro gweadau'r dirwedd trwy ddefnyddio cyfryngau cymysg.

Mae'r rhan fwyaf o'r gweithiau'n cynnwys y gwrthgyferbyniad rhwng tir a môr, gyda lleoliadau’n cynnwys y Lagŵn Glas yn Abereiddi, yn ymddangos mewn sawl darn o waith.

Dywedodd Emma Bowen: “Yn fy ngwaith rwy’n dwlu ar arbrofi gyda chyfryngau cymysg i greu dyfnder a gwead. Rwy’n peintio’r un golygfeydd fwy nag unwaith, ond yn aml rwy’n teimlo bod y paentiadau hyn yn wahanol iawn a dyna’r hyn rwy’n ei garu fwyaf am beintio, sef dal hanfod eiliad mewn amser yn y lle hwnnw, rhywbeth na fyddaf ond wedi’i brofi.”

Mae Surrounded by Sea yn arddangos yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch, Aberdaugleddau o Awst 2 i Awst 28 2025 a bydd ar agor yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.