Busnesau Sir Benfro yn cipio anrhydedd ddwbl mewn Gwobrau Celfyddydau Cenedlaethol

Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau oedd yn hawlio pob sylw yng Ngwobrau Celfyddydau a Busnes Cymru eleni wrth i’w partneriaethau gyda dwy elusen gelfyddydau lleol gael eu gwobrwyo am eu creadigrwydd, dylanwad a’u hymroddiad i’r gymuned. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn ICC Cymru, Casnewydd, wythnos diwethaf gan groesawu sefydliadau busnes a’r celfyddydau o bob cwr o Gymru. Llywyddwyd y noson gan wynebau cyfarwydd o’r llwyfan, sgrin a chwaraeon gan gynnwys enillydd BAFTA Cymru Mark Lewis Jones, yr enillydd medal arian Olympaidd Colin Jackson a’r cyflwynydd BBC Radio Wales Huw Stephens.

Elfen arbennig o’r noson oedd gwobrwyoJohnathanChitty, Prif Swyddog Ariannol   Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau,a Thrysorydd Celfyddydau SPAN, a enwyd yn Ymgynghorydd y Flwyddyn. Chwaraeodd Chitty rôl allweddol yn llunio strategaeth pum mlynedd SPAN, a arweiniodd i'r sefydliad gyflawni statws Portffolio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru am y tro cyntaf yn ei hanes 30 mlynedd. Symudodd Chitty i Sir Benfro yn ystod y pandemig gyda'i deulu ifanc i gymryd y rôl gyda'r Porthladd ac mae wedi ymrwymo'n llwyr i'r gymuned leol.

Mewn ymateb i’r wobr dywedodd Jonathan Chitty:

“Ro'n i’nteimlo’n wirioneddol ostyngedig wrth ennill y wobr hon, gan mai'r gwir enillydd yw'r tîm cyfan yn SPAN. Maetîm staff SPAN wedi fy ngwir ysbrydoli drwy'r effaith maen nhw'n ei chael ar ein cymunedau, ynghyd â'r cydweithredwyr creadigol gwych a'r gwirfoddolwyr arbennig. Ac wrth gwrs, mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ei hun yr un mor ysbrydoledig oherwydd y cyfrifoldeb hirdymor maen nhw wedi ei ddangos i'r sefydliad. Rydw i wedi dysgu llawer am yr heriau sy’n wynebu sefydliadau'r trydydd sector ac wedi bod yn falch fy mod wedi gallu addasu fy mhrofiad o amgylcheddau busnes corfforaethol i fod yn addas i fenter greadigol sy’n fwy canolbwyntiedig.”

Cydnabyddwyd Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau hefyd am eu gwaith gyda Theatr Torch, gan ennill y categori Celfyddydau, Busnes a Chymuned am eu cefnogaeth wrth  annog cyfranogiad yn y celfyddydau ar draws Gorllewin Cymru. Gyda’i gilydd, maent yn canolbwyntio ar lesiant a dyheadau hir-dymor pobl ifanc, gan ddarparu cyfleoedd celfyddydol i dros 5,000 o ddisgyblion ledled y rhanbarth. Mae eu cydweithio'n arddangos Sir Benfro fel rhan fywiog, greadigol a diwylliannol-gyfoethog  o Gymru.

Mae'r gwobrau yn dathlu'r rôl hanfodol y mae partneriaethau'n ei chwarae wrth gynnal tirwedd ddiwylliannol Cymru - yn profi bod cymunedau gwledig yn ffynnu pan fo'r celfyddydau a busnesau yn uno. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.