AMSER CHIP-TASTIG YN TORCH!

Aeth cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch o The Bangers and Chips Explosion gyda hisian a phop yn ddiweddar. Bu hanner cant o bobl ifanc lleol ar y llwyfan yn yr hyn a ddisgrifiodd un o’n hadolygwyr cymunedol fel “terfysg o chwerthin ac egni, gan gyflwyno perfformiad gwych a gwallgof yn llawn swyn, anhrefn a sglodion.”

Dilynodd yr antur gomedi gyffrous, wedi'i haddasu o'r llyfr llawn hwyl gan yr athro a drodd yn awdur, Brough Girling, yr hynt a helynt yn Ysgol Gynradd St Gertrude. Ar ôl derbyn adolygiadau gwych dros rediad o dair noson gan y wasg leol a'i hadolygwyr cymunedol ac iau, mae'r wythnos hon yn gweld yr holl bobl ifanc yn cael gorffwys haeddiannol - cyn i ysgolion haf anhygoel Theatr Torch ddechrau.

Dywedodd Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch fod y ddrama yn dangos yr hyn y gall pobl ifanc Sir Benfro ei gyflawni. Dywedodd:

“Mae’r antur llawn sglodion wedi bod yn chip-tastig ac rwy’n falch iawn o bawb a gymerodd ran – ar y llwyfan a thu ôl i’r llenni. Mae wedi bod yn ymdrech tîm enfawr ac yn daith wych i bobl ifanc Sir Benfro roi cynnig arni a bod yn rhan o ddigwyddiad cymunedol mor arbennig yma yn Theatr Torch. Hoffem ddiolch i bawb a gefnogodd y ddrama, yn cynnwys holl oedolion y bobl ifanc am eu cefnogaeth ddi-bendraw.”

Ochr yn ochr â'r sioe, cynhaliodd Theatr Torch gystadleuaeth ledled Sir Benfro yn gofyn i bobl enwebu eu cynorthwyydd cinio/goruchwyliwr gorau. Enillodd Nicola Wilson o Ysgol Iau Goodwick y wobr a chyflwynwyd basged selsig iddi o Gate 2 Plate ger Hwlffordd.

“Mae wedi bod yn daith gyffrous i bawb a oedd yn rhan o’r siwrnai. Cawsom lawer o chwerthin a chyffro ar hyd y ffordd ac allwn ni ddim aros i wneud y cyfan eto’r flwyddyn nesaf. Mae sioe’r flwyddyn nesaf yn addo cymaint o antur, chwerthin a llwyth o ddrama. Ond byddwn ni’n cadw’r teitl yn gyfrinach am ychydig yn hirach…” meddai Tim gyda gwên.

Mae theatr ieuenctid y Torch yn dychwelyd ym mis Medi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth drwy eu gwefan.

Hoffai Theatr Torch ddiolch i'w holl noddwyr a gefnogodd y sioe: Moby Dicks Fish and Chips Shop, Gate 2 Plate, Forrest Print, Hangar 5, GD Harries a Pembrokeshire Building & Plumbing Supplies.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.