Y Profiad Roc Unigryw!
Cefnogwyr roc .... dyma beth rydych chi wedi bod yn ei ddisgwyl - Bat Out of Hell – The Musical a fydd yn rhuo ar sgrin fawr Theatr Torch y Calan Gaeaf hwn. Ac, mae'n addo perfformiadau a fydd yn eich gadael chi'n fyr o anadl!
Bydd cast West End y cynhyrchiad yn dod ag anthemau eiconig Jim Steinman a Meat Loaf yn fyw, gyda chaneuon yn cynnwys I’d Do Anything For Love (But I Won’t Do That), Paradise By The Dashboard Light, Two Out of Three Ain’t Bad, Dead Ringer For Love, ac, wrth gwrs, Bat Out of Hell.
Mae'r profiad cyffrous hwn, gyda band byw pwerus o wyth aelod ar y llwyfan, yn cyflwyno cynhyrchiad newydd gyda llwyfannau aml-lefel helaeth i'ch cludo o ystafell wely Raven i fyd tanddaearol y Lost mewn gwledd weledol sy'n gwthio ffiniau theatr fyw.
Gellir gweld Bat Out of Hell – The Musical ar sgrin Theatr Torch ddydd Gwener 31 Hydref am 7pm. Tocynnau: £15. Gostyngiadau: £13. Dan 26: £8.50. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion. www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.