Sioe Banel Gymreig Llawn Comedi What Just Happened?
Mae'r sioe banel amserol wobrwyedig What Just Happened? yn dychwelyd i BBC Radio Wales ar ôl dwy gyfres radio lwyddiannus, dwy raglen deledu arbennig a ffilmiwyd ar gyfer BBC Cymru Wales a buddugoliaeth yng Ngŵyl y Cyfryngau Celtaidd 2024 yn y categori Comedi (Sain). Bydd y gyfres pedair rhan yn cael ei recordio'n wythnosol rhwng 24 Medi a 15 Hydref gyda thocynnau am ddim ar gael nawr ar gyfer y recordiadau ar 24 Medi yn Theatr Torch, Aberdaugleddau.
Mae Cyfres 3 yn croesawu dychweliad y cyflwynydd Robin Morgan (Mock the Week) a’r panelydd preswyl Kiri Pritchard-McLean (Live at the Apollo). Ymunwch â Robin a Kiri wrth iddyn nhw arwain eu panel o westeion i ymchwilio i newyddion wythnosol o Gymru a thu hwnt i geisio datrys What Just Happened? Bydd y penodau ar gael i’w gwrando ar 25 Medi, 2 Hydref, 9 Hydref ac 16 Hydref ar BBC Radio Wales, yna ar BBC Sounds.
Little Wander yw cwmni cynhyrchu comedi mwyaf blaenllaw Cymru. Wedi'i sefydlu yn 2009 i ffurfioli rhwydwaith cynyddol o gigs clybiau Cymru a lansio Gŵyl Gomedi Machynlleth, mae Little Wander wedi bod ar flaen y gad o ran datblygu comedi yng Nghymru ers dros ddegawd. Er ei fod yn adnabyddus ar y dechrau am gigs a gwyliau byw, mae'r cwmni wedi arallgyfeirio yn ystod y blynyddoedd diwethaf i deithio, cynhyrchu teledu, radio a phodlediadau, a hynny i gyd o'u canolfan yng nghanol Bannau Brycheiniog.
Mae Little Wander yn gwmni Cymreig balch sy'n ymdrechu i ddylanwadu ar gomedi ledled y DU a thu hwnt.Dywedodd y cyd-greawdwr Robin Morgan: “Rydyn ni’n ôl! A chyda’r amseru perffaith – dim ond ychydig fisoedd cyn yr etholiad Cymreig mwyaf erioed, rydyn ni’n dod â’r digrifwyr gorau sydd gan Gymru i’w cynnig i ddenu sylw’r rhai sydd wrth y llyw.
“Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd erbyn mis Hydref? A fydd Eluned Morgan yn dal i fod yn gyfrifol yn y Senedd? A fydd Robin Morgan (dim perthynas) yn dal i fod yn gyfrifol am What Just Happened? Bydd yn rhaid i chi wylio i ddarganfod.”
Dywedodd y cyd-greawdwr Henry Widdicombe: “Rydym wrth ein bodd yn dod â’r hyn sydd bellach yn teimlo fel sioe banel gomedi sefydledig Cymru yn ôl, a pharhau i arddangos y dalent gomedi orau yng Nghymru.”
Gellir gweld What Just Happened? Am ddim ar lwyfan Theatr Torch ar nos Fercher 24 Medi. Ewch i torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 am ragor o wybodaeth.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.