Holi Sarah Benbow am y Gerddoriaeth yn Rapunzel

Sarah Benbow o Sir Benfro yw Cyfarwyddwr Cerdd Rapunzel, pantomeim Nadoligaidd Theatr Torch fis Rhagfyr. Cafodd Jenny sgwrs gyda Sarah i ddarganfod o ble mae hi'n cael ei hysbrydoliaeth. Darllenwch ragor isod.

Alli dy rannu rhywfaint o dy hanes a dy daith i gyfeiriad cerddorol?

Rydw i bob amser wedi bod wrth fy modd yn gweithio gydag unigolion sy'n breuddwydio am ddod yn berfformiwr proffesiynol, ond roeddwn i'n awyddus i weithio gyda'r rhai sydd eisoes wedi gwneud y daith honno, a gweithio fel actorion proffesiynol. Rydw i eisiau eu helpu i ddatblygu eu lleisiau ymhellach ac archwilio cymeriadau trwy gân ac mae rôl y Cyfarwyddwr Cerdd yn caniatáu i mi wneud hyn. DW I WRTH FY MODD!

Fedri di ddweud ychydig wrthym am beth mae dy rôl fel Cyfarwyddwr Cerdd yn Rapunzel yn ei olygu?

Ar ôl i James ysgrifennu'r caneuon anhygoel, rwy'n gweithio gyda'r actorion, ac yn eu helpu i ddysgu a dehongli'r caneuon, yn barod ar gyfer y perfformiad.

Mewn tri gair, sut fyddet ti’n disgrifio’r gerddoriaeth sydd yn y sioe?

Hwyl, swnllyd, atgofus!

Sut mae'r gerddoriaeth yn helpu i ddod â'r stori a'r cymeriadau'n fyw?

Mae'n dangos ochr wahanol i'r cymeriad i chi a sut maen nhw'n cysylltu â'r gynulleidfa, ac yn adrodd eu stori trwy gerddoriaeth.

A oes ‘da ti hoff gân neu foment gerddorol yn y sioe?

Dw i wrth fy modd gyda chân y cwch - mae'n gwneud i mi chwerthin yn uchel ac yn mynd yn sownd yn fy mhen ar ôl pob ymarfer.

Sut brofiad yw hi wedi bod yn gweithio gyda’r cast eleni?

Braint anhygoel - mae'n griw gwych o actorion lleol.

Sut wyt ti’n cydweithio â Chelsey a'r coreograffydd i wneud yn siŵr bod y gerddoriaeth yn cyd-fynd â'r weithred?

Rydym yn trafod geiriau, dehongliad a nodweddiad y gân, ac yn gwirio ein bod ni i gyd ar yr 'un dudalen' ac yn dod o'r un cyfeiriad creadigol.

Beth yw dy hoff ran o'r swydd? Ymarferion? Perfformiadau?

Gweld ymatebion y gynulleidfa. Ymarferion - mae gweld y sioe yn datblygu a thyfu yn gyffrous iawn.

Llun gan Chris Lloyd.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.