Mae bod yn Wahanol yn Fater Cymhleth ...
Gall fod yn gyffrous, yn ofidus, yn rhywbeth dros dro, yn barhaol, yn rhyddhaol, yn beryglus, yn boenus, yn achos o ddathlu. Gofynnodd Anwen i DAR Rogers am A Brief History of Difference sy'n dod i lwyfan Theatr Torch ddydd Mercher 17 Medi.
Esbonia beth yw A Brief History of Difference
Mae A Brief History of Difference yn ymwneud â'r profiad o deimlo'n wahanol a chael eich gweld fel rhywbeth gwahanol – sut y gall hynny fod yn gyffrous, yn unig, yn ddryslyd, yn fywiog, yn beryglus. Mae'r sioe yn ymwneud ag iaith a labelu, pŵer a braint, cywilydd a pherthyn. Mae'n ymwneud â fi, dyn 56 oed, sy'n hoff iawn o golomennod, ac yn ffanatig o Talking Heads. Ond mae hefyd yn ymwneud â chi. Nid mater unigol yw bodolaeth, wedi'r cyfan!
O ble ddaeth y syniad?
Y teimlad fy mod i'n wahanol mewn rhyw ffordd yw'r agwedd fwyaf parhaol ar fy synnwyr o hunan. Rydw i bob amser wedi bod yn feddyliwr a theimlydd dwfn sydd wedi bod yn faich trwm ar adegau, yn enwedig pan oeddwn i'n blentyn. Rydw i wedi bod yn gofyn y cwestiwn 'Sut wnes i gyrraedd yma?' cyhyd ag y gallaf gofio. Daw sylfeini'r sioe o'r awydd hwn i archwilio ac i gysylltu ag eraill a darganfod sut beth ydyw iddyn nhw. Ni fyddai'r sioe ei hun byth wedi dod i fodolaeth oni bai am anogaeth ac arweiniad fy ffrind Gareth Clark (o Mr a Mrs Clark, sydd bellach yn Das Clarks). Ychydig flynyddoedd yn ôl, dangosais iddo rywfaint o ysgrifennu roeddwn i wedi'i wneud er mwyn hwyl. Ei ymateb oedd, dw i'n meddwl y gallem ni wneud sioe o hyn. Roedd yn ymddangos fel syniad hurt ar y dechrau, o ystyried fy niffyg hyfforddiant neu brofiad yn y celfyddydau neu greu theatr. Ond roedd Ga wedi dod o gefndir heb hyfforddiant ei hun ac roedd wedi gwneud llwyth o sioeau gwych gyda Marega Palser a phobl eraill. Felly cawsom griw hyfryd at ei gilydd a oedd yn cynnwys y cyfarwyddwr a'r cyd-greawdwr Jo Fong, y dylunydd Becky Davies a'r dewin goleuo a thechnoleg Ceri Benjamin. A dyna oedd dechrau’r cyfan!
Disgrifia’r darn theatr mewn tri gair.
Chwilfrydig, Cysylltiol, Gonest.
Arwyddair DAR yw ‘Mae Amser O Hyd!’ – dyweda ragor wrthym!
Dewisais yr arwyddair hwn tua 15 mlynedd yn ôl. Roedd gen i ‘swydd dda’ ar y pryd - cydweithwyr braf, rhagolygon o ddyrchafiad, telerau ac amodau rhagorol. Ond roeddwn i’n anfodlon yn y bôn fel yr oeddwn wedi bod am y rhan fwyaf o fy mywyd gwaith. Roeddwn i yn fy 40au cynnar ac roeddwn i’n poeni fy mod i wedi cymryd tro anghywir a bellach yn sownd yn y bywyd anghywir. Dewisais yr arwyddair ‘Mae Amser o Hyd’ a’i roi ar faner a osodais yn fy nhŷ er mwyn fy annog i weithredu a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae’n wir, chi’n gwybod. Mae amser o hyd. Hyd nes i chi farw ac yna does dim mwy. Felly bwrwch ati!
Pa fath o gynulleidfa fydd yn hoffi A Brief History of Difference?
Mae hwn yn un anodd gan nad ydw i o gefndir theatrig ac felly dydw i ddim yn siŵr pa fathau o gynulleidfaoedd sydd yna. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw bod y bobl sydd wedi dweud wrtha i eu bod nhw wedi mwynhau'r sioe wedi bod yn wahanol i'w gilydd o ran oedran, cefndir, hunaniaeth, y math yna o beth. Dw i'n meddwl ei fod yn apelio at bobl sydd, am amrywiaeth o resymau, wedi teimlo'n wahanol ar ryw adeg yn eu bywyd ac efallai'n unig neu'n ynysig o ganlyniad. Dw i'n gweld llawer o bobl chwilfrydig a charedig yn ein cynulleidfaoedd, ond mae croeso i bobl sy’n cawdw pethau’n dynn atynt a lletchwith hefyd!
Pa neges neu negeseuon mae A Brief History of Differencee yn eu cyfleu?
Gadewch i ni weld. Bod bywyd yn gymhleth a bod pobl yn gymhleth ac yn groes i'w gilydd. Y dylem roi seibiant i ni'n hunain ac i'n gilydd. Bod cael ein dal yn berygl galwedigaethol i fodau dynol. Bod newid yn anodd iawn, ond yn bosibl. Y gall pethau bach wneud gwahaniaeth mawr iawn. Bod angen braint arnoch i freuddwydio. Bod iaith – geiriau, labeli, disgrifiadau – yn dweud wrthym beth sy'n bosibl i fod. Bod dawnsio yn ffordd effeithiol iawn o ysgwyd cywilydd i ffwrdd. Bod colomennod yn hyfryd. Rhywbeth tebyg.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.