Cymysgedd hudolus o gyffro byw, animeiddio a phypedwaith

O'r gyfres newydd o sioeau cerdd teuluol "Story Time" gan grewyr There Was An Old Lady Who Swallowed A Fly daw A Big Egg i lwyfan Theatr Torch. Yn seiliedig ar y llyfr lluniau gan Steven Lee ac wedi'i berfformio gyda chymysgedd hudolus o gyffro byw, animeiddio a phypedwaith, bydd y sioe gerdd flasus hon i ganu gyda hi yn swyno hyd yn oed y mynychwyr theatr mwyaf caled.

I Jack a'i chwaer fach Molly does dim byd mwy rhyfeddol a hudolus nag ŵy. Ond pa mor fawr all ŵy dyfu? A pha syrpreisys rhyfeddol all fod y tu mewn? Ymunwch â Jack a Molly am wledd o hwyl - ac amser gwych, yn berffaith ar gyfer plant rhwng dwy a 102 oed!

 

Mae'r sioe deuluol wedi derbyn adolygiadau gwych gan aelodau'r gynulleidfa o bob cwr o'r DU gyda Family Matters yn dweud: “Roedd y plant wedi’u cyfareddu’n llwyr drwyddi draw” a dywedodd aelod o’r gynulleidfa a welodd y sioe yn The Lyric Hammersmith “Roedden ni wrth ein bodd, roedd y plant wrth eu bodd, roedd pawb wrth eu bodd.”

Ddydd Mercher 8 Ebrill am 2pm, gall cynulleidfaoedd Sir Benfro fwynhau'r sioe hudolus, llawn swyn hon. Prisiau tocynnau ar gyfer A Big Egg yw £10 | £8 Cons. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

 

 


 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.