Cyn-ddisgybl Ysgol y Preseli, Emily Davis, yn dod i lwyfan y Torch ...

Bydd Theatr Torch yn croesawu cyn-ddisgybl Ysgol y Preseli, Emily Davis, i'w llwyfan fis Mawrth gyda'i sioe un fenyw sy'n taro'r holl nodau cywir. Gan gyfuno dychan miniog, caneuon gwreiddiol uchelgeisiol a pherfformiad pwerus, mae Blodwen Rocks the Boat! yn gomedi gerddorol i unigolion sydd erioed wedi cwestiynu eu 9-i-5 neu eu hunain.

Anwen aeth draw i holi Emily am ei sioe newydd ...

Cyflwyna dy hunan a dy gysylltiad i’r ardal leol

Cefais fy ngeni yng Nghaerdydd a symudais i Sir Benfro pan oeddwn i'n 11 oed. Roedd fy nhad-cu a mam-gu wedi symud i Johnston ddiwedd yr 80au felly roeddwn i eisoes wedi syrthio mewn cariad â'r ardal, ac wedi treulio fy mlynyddoedd cynnar iawn yn dod i lawr i Sir Benfro yn ystod gwyliau'r ysgol, yn aros yn eu carafán ar Draeth Niwgwl, yn dod i Aberdaugleddau am dro ar hyd y lan ac yn cael pic 'n' mix o Woolworths! Es i Ysgol y Preseli yng Nghrymych, ac er i mi symud i ffwrdd ar ôl fy nghyfnod yn y brifysgol, rwy'n dal i ddod adref llawer ac rwy'n agos iawn at fy ffrindiau ysgol. Rwyf eisoes wedi perfformio yn y Torch gyda Chymdeithas Operatig Hwlffordd felly rwy'n gyffrous iawn i ddychwelyd gyda fy sioe fy hun.

Dyweda rhagor wrthym am Blodwen

Blodwen yw fy hunan-arall. Roeddwn i wedi gwneud ychydig o sioeau un fenyw yn union fel Emily, ond sylweddolais ychydig flynyddoedd yn ôl y byddai'n ddefnyddiol gallu ymgartrefu mewn cymeriad, fel y gallwn gamu allan ohono ar ôl perfformiad a mynd yn ôl i'm bywyd arferol. Roeddwn i bob amser wedi ysgrifennu am fy magwraeth yma yng Nghymru -  roedd gen i lawer o straeon am dyfu i fyny yng nghefn gwlad Cymru ac roeddwn i'n teimlo bod angen enw arnaf a oedd yn adlewyrchu hynny ac yn datgan yn gadarn iawn fy mod i'n perthyn i Gymru. Felly ganwyd Blodwen! Mae hi'n ddewr, yn gyffrous, ac yn dweud yr hyn mae hi wir yn ei feddwl, drwy'r amser, yr hyn nad yw bob amser yn hawdd ei wneud mewn bywyd go iawn.

 

Beth yw pwrpas y sioe?

Mae'r sioe'n edrych ar beth mae'n ei olygu i fod yn llwyddiannus a chyflawni dymuniad eich calon, ac yn gofyn - ai'r un peth yw’r ddau? Mae Blodwen yn mynd ar daith feddwol ar hyd bryniau Cymru i'r adeilad uchel, talaf yn Llundain ac yn ticio pob blwch yr oedd hi eisiau ei dicio. Ond mae'n canfod ei hun yn cwestiynu a yw'r llwybr y mae hi wedi'i ddilyn mewn gwirionedd yn gweithio iddi hi.

O ble ddaeth y syniad?

Argyfwng dirfodol, os ydw i'n onest. Pam mae unrhyw un ohonom yn gwneud unrhyw beth? Fe wnes i ddarganfod angerdd dros hwylio ychydig flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i ar daith iâr ym Mallorca ac roedd yn rhaid i ni adael y llong oherwydd bod y môr mor arw. Roeddwn i wedi fy swyno cymaint gan yr holl brofiad a chyn gynted ag y cyrhaeddais adref nes i archebu cwrs Dechrau Hwylio, ac rydw i wedi bod yn gaeth byth ers hynny. Dechreuodd y ffaith bod yr angerdd mawr iawn hwn wedi'i danio ynof am rywbeth nad oedd erioed wedi bod ar fy radar i mi feddwl - beth arall rydw i'n ei golli? Dechreuais feddwl am gaethder a llwybr cul y 9-5, a meddwl tybed beth fyddai'n digwydd i rywun a ddeffrodd un diwrnod ac am ddianc rhag y bywyd undonog? Sut fyddech chi'n mynd ati? Pa mor frawychus fyddai? A (yn fwyaf diddorol i mi) pha mor ryddhaol fyddai?

Disgrifia’r sioe mewn tri gair

Gobeithiol, llawen, traed ar y ddaear.

Pa fath o gynulleidfa fydd yn mwynhau'r sioe?

Pawb sydd wedi gweithio mewn swyddfa neu sydd wedi cael breuddwyd.

 

Pa neges mae'r sioe hon yn ei chyfleu?

Mae mwy i fywyd na'r hyn sy'n cael ei roi o'n blaenau. Peidiwch ag ofni mentro oddi ar y llwybr arferol a chreu eich llwybr eich hun.

Gellir gweld Blodwen Rocks the Boat, ar lwyfan Theatr Torch ar nos Fawrth 17 Mawrth am 7.30pm. Pris tocyn: £15. Addas ar gyfer 12+ gan fod y sioe yn cynnwys rhegi ysgafn. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.