Blog No. 36 - Alicia Todaro
Os ydych chi'n ymweld â Chaffi'r Torch, mae'n debyg eich bod chi wedi dod ar draws Alicia Todaro – un o'r wynebau cyfeillgar sy'n cymryd eich archebion ac yn paratoi eich bwyd. Cafodd tîm marchnata Theatr Torch sgwrs gydag Alicia i glywed am ei hamser yn y Torch.
Rydw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant bwyd ers pan oeddwn i tua 14 oed ac mae gen i angerdd gwirioneddol dros fwyd. Gan fy mod i'n dod o deulu Eidalaidd, mae bwyd wedi bod yn rhan bwysig o fy mhlentyndod. Mae bod yn gyfoethog mewn traddodiadau teuluol wedi gweld y minnau a’m mhlant yn dysgu wrth fy nhad a'm neiniau a theidiau. Mae hyn wedi ein dwyn at ein gilydd fel teulu. Dros y blynyddoedd rydw i wedi cael y fraint o weithio mewn llawer o gaffis a bwytai lleol gwych, felly efallai y bydd rhai ohonoch chi'n fy adnabod yn barod.
Dw i bob amser wedi bod wrth fy modd yn gwneud cacennau a phwdinau.
Am bedair blynedd, roeddwn i'n hunangyflogedig, yn creu cacennau dathlu personol, blychau brownis, mins peis briwsion a chacennau cwpanau bach o gartref. Roedd yn un o'r penderfyniadau gorau i mi erioed ei wneud. Fe wnaeth ganiatáu i mi wneud rhywbeth rwy'n ei garu'n fawr tra hefyd yn treulio amser gyda fy nau blentyn ifanc.
Ymunais â'r Torch ym mis Hydref 2022. Fy rôl i yw cefnogi'r Rheolwr Arlwyo i reoli ein caffi, ciosg a'n bar. O'r diwrnod cyntaf, mae pawb wedi bod yn hynod groesawgar, yn enwedig Lisa, sydd wedi bod yn anhygoel wrth gefnogi a dysgu technegau newydd i mi wrth gwcan a chyflwyno bwyd. Yn gyflym, teimlais yn aelod pwysig a gwerthfawr o dîm y Torch. Rydw i'n teimlo'n ffodus iawn i barhau i wneud y pethau rydw i'n angerddol amdanyn nhw wrth weithio ochr yn ochr â grŵp o bobl mor wych mewn amgylchedd cefnogol a meithringar.
Rwy'n wirioneddol ddiolchgar o fod yn gweithio mewn lle cymunedol mor wych a chynhwysol gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau sy'n newid yn gyson - lle nad oes dau ddiwrnod byth yr un peth.
Os ydych chi'n chwilio am gacen wedi'i gwneud yn arbennig, pwdinau ar gyfer dathliad, byddwn i wrth fy modd yn eich helpu - cysylltwch â mi.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.