Blog Rhif. 40 - Grwpiau Cymunedol
Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch, Chelsey Gilalrd, sy'n dweud wrthym am bwysigrwydd grwpiau cymunedol yma yn y Torch a pha sioeau sydd ar ddod eleni a fydd yn sicrhau profiad chwerthin hollti bol ...
Yn y Torch, rydyn ni wrth ein bodd yn dechrau hanner cyntaf y flwyddyn newydd gyda chymorth ein ffrindiau. Dros yr ychydig fisoedd nesaf, bydd amrywiaeth anhygoel o bobl sy'n rhoi o'u hamser rhydd i wneud sioeau ddigwydd yn serennu ar ein llwyfannau.
Mae grwpiau cymunedol fel Artistic Licence, Cymdeithas Opera Amatur Aberdaugleddau, Cymdeithas Opera Hwlffordd, New Xenon a Touch & Go Theatre wrth wraidd yr hyn y mae'r Torch yn ei gynrychioli. Ers y dechrau’n deg mae'r Torch wedi credu bod gan grwpiau cymunedol gymaint o hawl i berfformio ar ein llwyfannau â chynyrchiadau proffesiynol. Mewn gwirionedd, roedd aelodau o Opera Amatur Aberdaugleddau ymhlith y bobl gyntaf i berfformio ar ein prif lwyfan bron i 50 mlynedd yn ôl.
Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at weld beth mae'r cwmnïau hyn wedi'i greu bob blwyddyn ac rwyf yn gwybod fy mod bob amser yn sicr o gael noson dda allan. Yn ystod fy misoedd cyntaf yn y Torch, roeddwn yn siŵr y byddwn yn cael fy nhaflu allan o'r theatr am chwerthin yn rhy uchel yng nghynhyrchiad Artistic Licence o The 39 Steps!
Eleni mae yna gnwd toreithiog o gynyrchiadau a fydd yn gwneud i chi chwerthin, llefain a hyd yn oed chwibanu! Yn gyntaf, mae gennym comedi glasurol i chwerthin yn uchel o’r enw Noises Off gan Artistic License, yna symudwn ymlaen i ddrama uchel a cherddoriaeth angerddol yn Evita gan MHAOS. Yna cewch eich siacedi achub yn barod ar gyfer sioe Cymdeithas Operatig Hwlffordd Divas All at Sea am un noson yn unig ym mis Ebrill. Yna daw mis Mehefin ag ychydig o elfennau drwg yn The Full Monty gan New Xenon. Byddwn yn cloi hanner cyntaf y flwyddyn gyda'r gomedi gerddorol boblogaidd Nunsense a berfformir gan Touch & Go Theatre.
Bydd pobl o bob cefndir yn camu i’r amlwg, o athrawon i weithwyr purfa, cyn-feddygon i drefnwyr angladdau. Mae gan bawb wreichionen o greadigrwydd ynddynt. Pe na bai gen i’r fraint aruthrol o weithio yn y theatr yn y swydd hon, byddwn yn erfyn ar unrhyw un o’r grwpiau hyn i adael i mi berfformio ar y llwyfan gyda nhw.
Mae astudiaethau lluosog wedi dangos yn ddiweddar bod cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol yn lleihau ymweliadau â meddygon teulu a derbyniadau i'r ysbyty. Mewn adroddiad nodedig diweddar, a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, canfuwyd bod gwerth ariannol y manteision iechyd a chynhyrchiant a gynhyrchir trwy bob ymgysylltiad celfyddydol yng Nghymru gwerth o leiaf £588m y flwyddyn. Golyga hyn y gall cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol wella eich iechyd corfforol a meddyliol ac arbed symiau enfawr o arian i'n GIG gwych.
Felly dewch i’r Torch, archebwch eich tocynnau, cefnogwch eich talent yma’n lleol ac efallai y cewch eich ysbrydoli i gymryd rhan eich hun hyd yn oed.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.