Blog Rhif. 42 - Mentrau Iaith

Tro Rhanbarth y De-orllewin o Fentrau Iaith Cymru oedd croesawu’r gynhadledd flynyddol eleni a phenderfynwyd talu ymweliad â Sir Benfro. Wrth feddwl am leoliadau posib, ro’n i’n digwydd bod yn Theatr Torch fel rhan o sesiwn gydag Adam yn yr Ardd yn plannu bylbiau cennin pedr fel rhan o brosiect ‘Gerddi Gleision’ a meddwl nawr, dyma le da ar gyfer Cynhadledd!

Felly, yn dilyn misoedd o baratoi, daeth cynrychiolwyr o bob cwr o Gymru yn Brif Swyddogion ac aelodau o Fyrddau Rheoli rhai o’r Mentrau, ynghyd â staff MIC a Llywodraeth Cymru am gynhadledd ddeuddydd yn Aberdaugleddau – gyda nifer yn ymweld â’rardal am y tro cyntaf erioed!

Cafwyd ystod o gyflwyniadau a sesiynau diddorol a chyfle i drafod ein gwaith a chyfraniad y Mentrau Iaith at ddatblygu’r Gymraeg oddi fewn i’w cymunedau. Mae pob ardal yn wahanol ac mae’n bwysig bod gwaith y Mentrau yn adlewyrchu hynny a braf yw clywed profiadau ardaloedd eraill a chael cyfle i ddysgu rhagor am ffurfiau gwahanol o gynnal prosiectau llwyddiannus.

Wrth fod y Gynhadledd yn teithio o gwmpas Cymru mae’nbraf bob amser i gael cyflwyniadau am brosiectau lleol a bu Cris Tomos yn sôn am nifer o brosiectau asedau cymunedol sydd wedi elwa o grantiau a phwrcasu gan y gymuned leol. Daeth Nico Dafydd i drafod datblygiadau cyffrous Cwmni Fflach Gydweithredol yn Aberteifi gyda phobl yn buddsoddi yn y cynllun.

Bu sesiynau hefyd ar ymwybyddiaeth gwrth-hiliaeth, Gweledigaeth 2050 Llywodraeth Cymru, trafod rôl y Mentrau Iaith, cael diweddariadau ar ymweliad â chynadleddau mewn gwledydd tramor, a sesiwn gan Gyngor y Celfyddydau – gan roi tipyn o syniadau a meddwl am ffyrdd newydd o gydweithio.

Profwyd croeso cynnes gan Jackie a holl staff y Theatr ac roedd y prydau bwyd yn arbennig o dda! Roedd y tywydd yn fendigedig a chyfle i gerdded (neu redeg i’r llai mwy ffit!) o gwmpas y marina – braf iawn oedd cael manteisio ar y cyfle am awyr iach ar ôl y sesiynau. Bu’r ddarpariaeth yn y gwesty - y Tŷ Hotel yn wych hefyd a gyda phryd o fwyd yn yr hwyr yn Martha’s Vineyard, roedd y cyfan mor hwylus a chan gefnogi sawl busnes a sefydliad lleol yr un pryd.

Diolchi bawb am y croeso a’r cydweithrediad!

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.