Seren y BBC yn Dychwelyd i Lwyfan y Torch
Mae seren BBC Radio Wales, Bronwen Lewis, yn dychwelyd i'r llwyfan i ddathlu rhyddhau ei halbwm newydd hir-ddisgwyliedig 'Finding Me'. Ar ddydd Gwener 7 Tachwedd, bydd Theatr Torch yn llawn synau Gwlad, Pop, Gwerin a'r Felan.
Mae'r gantores-gyfansoddwraig o Gymru yn falch o fod yn ddwyieithog ac wedi derbyn clod rhyngwladol yn ystod ei chyfnod ar The Voice, pan ddaeth â Tom Jones i ddagrau. Mae Bronwen bellach yn eistedd ar un o'r cadeiriau coch enwog fel beirniad ar Y Llais , rhifyn Cymraeg o The Voice.
Mae ail albwm Bronwen ‘Finding Me’ wedi bod yn dair blynedd o gariad a gofal wrthi’n cael ei greu. Bydd Bronwen yn perfformio caneuon o’i halbwm newydd am y tro cyntaf ochr yn ochr â ffefrynnau’r cefnogwyr a fersiynau poblogaidd o glasuron traddodiadol Cymru wedi’u cyflwyno yn null gwir Bronwen gyda straeon doniol wedi’u cydblethu!
Gwnaeth taith ddiweddar Bronwen, ‘Big Night In’, syfrdannu cynulleidfaoedd lwcus ac roedd yn cynnwys sioe fwyaf hyd yma yn Arena Abertawe a WERTHIWYD POB TOCYN. Peidiwch â cholli’r sioe agos hon gyda Bronwen. Argymhellir i gefnogwyr archebu’n fuan gan fod tocynnau’n gwerthu’n gyflym.
Bydd Bronwen Lewis yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch nos Wener 7 Tachwedd am 7.30pm. Tocynnau: £38 Premiwm | £32 Safonol. Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.