Y Torch yn Croesawu Awdur y Sioe Wobrwyedig ‘Oh Hello’ i’w Llwyfan
Ydych chi'n ffan o Carry On? Ydych chi'n mwynhau slapstic, awgrymiadau a jôcs anweddus? Edrychwch dim pellach na Theatr Torch ddydd Gwener 12 Medi wrth i'r digrifwr, actor ac awdur y ddrama wobrwyedig Oh Hello! And When the Carry On Stopped ddod i'r Torch gyda sioe newydd. – Carry On Woking! Mae'r sioe gomedi newydd hon oll am y ffilmiau Carry On, bod yn ‘woke’ a thref Woking, wedi'i hysgrifennu gan Dave Ainsworth sy’n serennu ynddi.
Rydym oll wrth ein bodd â chomedi Brydeinig ac nid oes adloniant gwell na'r chwerthin hollti bol hynny o Carry On Sergeant, Carry on Teacher, Carry on Nurse, Carry on Constable, Carry on Camping, Carry On Up the Khyberto i enwi ond y rhai. Mae’r actorion gwych, cofiadwy -Sid James, Kenneth Williams, Charles Hawtrey, Joan Sims, Kenneth Connor, Peter Butterworth, Terry Scott, Bernard Bresslaw, Hattie Jacques, Barbara Windsor, Jack Douglas a Jim Dale, yn dod â gwên i'n hwynebau.
“Mae fy holl sioeau wedi’u cynllunio i addysgu yn ogystal â diddanu ac felly dylai’r gynulleidfa ddysgu pethau nad oeddent yn eu gwybod amdanaf i, yr actorion oedd yn y ffilmiau Carry On a thref Woking,” eglurodd Dave, a arhosodd yn Woking dros nos at ddibenion ymchwil.
Ond pam mae Dave mor hoff o'r ffilmiau Carry On?
“Rwy’n hoff iawn o’r actorion yn y ffilmiau Carry On ac yn teimlo nad ydy nhw’n cael eu gwerthfawrogi fel perfformwyr. Mae ffilmiau Carry On yn dal i sefyll fel cerbydau comedi. Dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn eu caru. Y llynedd, bues i mewn cynhadledd Carry On ac roedd cannoedd o bobl yno,” eglurodd Dave sy’n disgrifio ei sioe fel ‘eofn a gwirion.’
Ond a yw'n bosibl bod yn 'woke' a dal i garu'r ffilmiau Carry On? Mae Dave yn sicr o'r farn honno. Mae ei ddealltwriaeth yn seiliedig ar ymchwil helaeth. Deffrowch ac aroglwch y comedi!
Gellir gweld Carry On Woking by Dave Ainsworth ar lwyfan Theatr Torch ar nos Wener 12 Medi am 7.30pm. Tocynnau: £15. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk / ffonwich y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.