Deffrowch ac Aroglwch y Comedi Yma yn y Torch!
Ydy hi'n bosib bod yn 'effro' a dal i garu'r ffilmiau Carry On? Mae Dave Ainsworth, awdur When the Carry On Stopped, wir yn meddwl hynny. Mae ei ddealltwriaeth yn seiliedig ar ymchwil helaeth gan gynnwys ymweliad â chalon ‘woke’ - tref Woking! Deffrowch ac aroglwch y comedi! Cafodd Anwen sgwrs gyda Dave, a fydd yn dod â Carry On Woking i lwyfan Theatr Torch ddydd Gwener 12 Medi, i gael gwybod rhagor ...
Dave, dyweda fwy wrthym am Carry on Woking. Beth all aelodau'r gynulleidfa ei ddisgwyl?
Gobeithio, tua 60 munud o hwyl! Mae fy holl sioeau wedi'u cynllunio i addysgu yn ogystal â diddanu ac felly dylai'r gynulleidfa ddysgu pethau nad oeddent yn eu gwybod amdanaf i, yr actorion oedd yn y ffilmiau Carry On a thref Woking.
Oes angen i bobl fod yn gefnogwyr o’r ffilmiau Carry On i fwynhau'r sioe?
Ddim o gwbl. Byddaf yn cyffwrdd â llawer o bynciau gwahanol eraill, fel Brad Pitt, dietau cyn-diabetig a phŵer Llaeth Magnesia.
Disgrifia’r sioe mewn tri gair. Eofn, Helynt Gwirion!
Pam wyt ti’n hoffi ffilmiau Carry On gymaint?
Dw i'n gefnogwr o'r actorion yn y ffilmiau Carry On ac yn meddwl nad ydynt yn cael yr un clod â pherfformwyr eraill. Mae ffilmiau Carry On yn dal i sefyll fel cerbydau comedi. Dydw i ddim ar fy mhen fy hun yn eu caru. Y llynedd, mynychais gynhadledd Carry On ac roedd cannoedd o bobl yno.
Disgrifia tref Woking
Tref llawer mwy diddorol nag y mae pobl yn ei sylweddoli. At ddibenion ymchwil, arhosais yno dros nos a chreodd gryn argraff arna i. Mae'n ganolfan 'llawn bywyd' ac yn lle hyfryd i ymweld ag ef.
Beth yw dy hoff ffilm Carry On a pham?
Don’t Lose Your Head, am y rheswm syml bod Joan Sims a Charles Hawtrey, fy hoff actorion, yn rhyngweithio mor drawiadol.
A dy hoff actor o’r ffilm Carry On? Charles Hawtrey.
Rwyt ti wedi ysgrifennu'r sioe hon a byddi di’n serennu ynddi, faint o waith sydd ynghlwm?
Mae lot o waith yn mynd i greu’r sioe hon. Mae fel ailadeiladu'r Titanic gyda llwyau. Nid y dysgu sy'n bwysig, ond creu'r gomedi sy'n cymryd cymaint o amser.
A wyt ti’n gallu sicrhau sioe hollti bol i’r gynulleidfa?
Bydd ‘na ddigon o chwerthin i ysgwyd chwerthin Sid James allan o ymddeoliad.
I archebu eich tocynnau ar gyfer Carry On Woking ar lwyfan Theatr Torch ddydd Gwener 12 Medi am 7.30pm, a thocynnau’n £15, ewch i'r wefan am ragor o fanylion. www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.