Croesawu Cast Serol I'w Llwyfan yr Hydref Hwn

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Kill Thy Neighbour (cyd-gynhyrchiad proffesiynol â Theatr Clwyd) a'r rhyfeddol Private Lives, bydd Theatr Torch yn croesawu cast serol i'w llwyfan yr hydref hwn yn Turn Of The Screw. Bydd yr actor proffesiynol lleol Samuel Freeman a Seren Vickers o Benarth yn eich tywys trwy'r ddrama gyffro gythryblus a chyflym, a fydd yn gwneud i’ch calon guro’n galed a’ch cadw ar ymyl eich sedd.

Ganwyd a magwyd yr actor/cerddor Samuel yn Aberdaugleddau lle mynychodd Theatr Ieuenctid y Torch, a mynd ymlaen i hyfforddi yn Ysgol Gerdd a Chelfyddydau Perfformio Bath Spa. Dyma fydd ei chweched cynhyrchiad yn Theatr Torch yn dilyn Of Mice and Men, Beauty and the Beast, Jack and the Beanstalk, Cinderella a Sleeping Beauty.

Yn ymuno â Samuel ar y llwyfan bydd Seren Vickers, graddedig o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei chredydau theatr yn cynnwys Jordan Baker yn The Great Gatsby (Theatr Clwyd); Llewellyn yn HENRY V (Storyhouse Theatre); Lady Macbeth (The Barbican Theatre, Plymouth) a Gwen yn Hail Cremation (National Theatre Wales). 

Mae Seren wrth ei bodd yn gwireddu ei huchelgais o weithio yn Theatr Torch.

 

Dywedodd: “Rwy’n gyffrous iawn i gamu i mewn i neuaddau cysgodol Bly i rannu stori arswyd a dychymyg Henry James gyda chynulleidfaoedd yr hydref hwn.”

 

Yn enwog am ei chynyrchiadau cartref rhagorol gan gynnwys y gwobrwyedig Grav, mae Theatr Torch yn cynnwys actorion proffesiynol lleol a'r dalent theatrig orau o bob cwr o Gymru, a bydd ei chynhyrchiad yn yr Hydref yn ticio'r blychau i gyd. Bydd y stori ysbryd glasurol, yn llawn dwyster seicolegol, ffraethineb a dirgelwch, a ysgrifennwyd yn wreiddiol gan Henry James ym 1898, yn gadael cynulleidfaoedd yn cwestiynu realiti, ac yn meddwl beth sy'n gredadwy a beth sydd ddim.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Chelsey Gillard: “Mae’r fersiwn hon o Turn of the Screw yn gyfle i’r ddau actor gwych hyn ddangos eu sgiliau a rhoi perfformiadau meistrolgar. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda Sam ac mae wedi bod yn freuddwyd i mi weithio gyda Seren ers tua deng mlynedd – felly alla i ddim aros i ddechrau ymarferion yn fuan. Cadwch lygad allan am gipolwg y tu ôl i’r llenni dros yr ychydig wythnosau nesaf.”

Bydd The Turn of the Screw yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch am gyfnod o bythefnos o ddydd Mercher 8 Hydref i ddydd Sadwrn 25 Hydref. Tocynnau: £18-£28. Iaith Arwyddion Prydain: Dydd Mawrth 14 Hydref. Archebwch docynnau drwy'r wefan torchtheatre.co.uk / Swyddfa Docynnau: 01646 695267.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.