Cynhwysion pantomeim anhygoel rydyn ni'n eu hadnabod ac yn eu caru
Chelsey Gillard yw awdur a chyfarwyddwr pantomeim Theatr Torch eleni, Rapunzel. Aeth Emma i gael sgwrs gyda Chelsey y tu ôl i'r llwyfan ar brif lwyfan Theatr Torch i ddarganfod popeth sydd i'w wybod am y pantomeim Nadoligaidd y gellir ei weld yn Theatr Torch ar hyn o bryd.
Pam wnes di ddewis Rapunzel ar gyfer pantomeim 2025?
Dw i'n meddwl bod gan Rapunzel yr holl gynhwysion i greu pantomeim gwych ac mae'n stori dylwyth teg adnabyddus. Mae gennym ni ein bobl da, a'r drygionus a'r Fam Gothel ofnadwy. Yna rydyn ni'n ychwanegu ychydig o hud pantomeim gyda’r Fonesig wych. Mae gennym ni bâl hefyd.
Daeth y stori hon i'm meddwl yn arbennig oherwydd pan oedden ni'n gwneud clyweliadau ar gyfer pantomeim y llynedd, y sioe boblogaidd Jack and the Beanstalk, fe wnes i gwrdd ag actor gwych, ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn edrych yn debyg iawn i'r tywysog o ffilm adnabyddus. O hynny ymlaen, roedd fy meddwl yn troi ac yn sydyn, daeth yr holl ddarnau at ei gilydd. Roeddwn i'n meddwl y gallai ein Rapunzel fod wedi'i chloi mewn goleudy oddi ar arfordir Aberdaugleddau, yn hytrach nag mewn tŵr. Ac yna, yn araf ond yn sicr, daeth yr holl gynhwysion pantomeim anhygoel hynny rydyn ni'n eu hadnabod ac yn eu caru at ei gilydd i greu rhywbeth gwirioneddol arbennig.
Fel arfer mae gan bantomeimiau Torch ffocws lleol, ai dyna'r achos eleni?
Wrth gwrs, rydyn ni wrth ein bodd yn sôn am lawer o gyfeiriadau lleol yn ein pantomeimiau, oherwydd mae ein holl gymeriadau'n byw ac yn gweithio yn Sir Benfro. Mae gan ein boneddiges hyfryd, Belinda Beehive, salon gwallt o'r enw Bay Wash, sy'n edrych dros lannau tywodlyd Gelliswick. Mae ein Rapunzel yn cael ei phwerau hudolus o wymon goruwchnaturiol anhygoel sy'n tyfu rhywle yn nyfroedd Sgomer ac un o'n cymeriadau yw Pâl bach hyfryd o'r enw Zephyr, sydd, wrth gwrs, yn dod o Ynys Sgomer. Mae yna ddigon o gyfeiriadau lleol eraill hefyd, oherwydd dyna lle rwy'n byw ac rwy'n dwlu cynnwys y lleoedd a'r busnesau lleol rwy'n eu caru yn yr ardal.
Sut mae'r ymarferion wedi mynd?
Maen nhw wedi bod yn bleser pur. Dyma oedd fy nghyfle cyntaf i feddwl … ydw i wedi castio'n iawn? Ydyn nhw'n deall y cymeriadau maen nhw'n eu chwarae? Ydy fy jôcs yn ddoniol? Rwy'n sicrhau fy mod i'n dweud wrth bawb fod yn rhaid iddyn nhw chwerthin yn uchel iawn cyn i ni ddechrau. Ond roedd yn bleser pur. Mae pob un o'r cast eleni wedi dod gyda hwyl yn eu calon a llawer o ysbryd Nadoligaidd. Mae wedi bod yn amser anhygoel, ac rydyn ni i gyd yn mwynhau canu'r caneuon gwych a ysgrifennwyd gan ein cyfansoddwr talentog, James Williams, sydd wedi rhagori eleni. Maen nhw i gyd yn edrych yn hollol eithriadol yn eu gwisgoedd. Mae digon o bethau disglair, digon o gliter, a'r math yna o ddwli annwyl rydych chi wedi dod i'w ddisgwyl gan bantomeim Theatr Torch.
Beth sy'n gwneud pantomeim y Torch mor unigryw?
Dw i'n meddwl bod pantomeim y Torch yn unigryw. Rydyn ni'n ei wneud yn newydd sbon, yn gwbl unigryw i'n cynulleidfaoedd yma, felly rydyn ni'n gallu ymateb i bethau sy'n digwydd yn lleol. Mae cymaint o'n hactorion yn lleol, felly maen nhw'n bobl a oedd arfer mynd i Theatr Ieuenctid y Torch efallai, neu a dyfodd i fyny yn dod i'r Torch ac yna wedi mynd i hyfforddi mewn ysgol ddrama. Maen nhw wir yn deall y fraint o rannu eu hamser Nadolig gyda phawb sy'n dod i weld y sioe. Rydyn ni wrth ein bodd yn dod â'r gweithwyr proffesiynol gorau oll i chi, boed hynny ar y llwyfan neu oddi ar y llwyfan. Yn ein tîm dylunio, mae pob unigolyn wrth ei fodd â'r pantomeim, ac wrth ei fodd yn ei rannu gyda chi i gyd.
Oes rhywbeth i bawb yn y pantomeim hwn?
Wrth gwrs, mae ein Rapunzel yn dal i fod yn dywysoges wedi'i chloi mewn tŵr, ond dydy hi ddim yn cymryd unrhyw nonsens o gwbl. Dydy hi ddim yn ofni mynd ar antur ei hun ac yn sicr dydy hi ddim yn aros i dywysog ddod i'w hachub. Ond wedi dweud hynny, ein tywysog yw'r person mwyaf dewr a beiddgar yn bendant, er ei fod yn mynd ychydig yn ofnus weithiau, a bydd yn sicrhua bod y bobl y mae'n gofalu amdanyn nhw'n ddiogel. Bydd yr holl gymeriadau'n sicrhau bod digon o gyfleoedd i ymuno yn yr hwyl, boed eich bod chi'n dywysoges fach, yn dywysog bach, yn anghenfil môr, neu efallai hyd yn wrach môr. Bydd digon o gyfleoedd i glapio dwylo, canu, a bod yn rhan o'r stori.
Bob blwyddyn rydym yn cynnal cystadleuaeth i blant lleol ddylunio elfen bwysig iawn o'n pantomeim. Eleni, roedd yn gyfle i ddylunio anghenfil môr dychrynllyd sy'n cael ei reoli gan ein Mam Gothel ddrwg, ac mae'r ceisiadau wedi bod yn gwbl anhygoel! Ond wrth gwrs, mae pawb yn dod yn bethau da yn y diwedd.
Mae pantomeim Rapunzel ar y llwyfan ar hyn o bryd a gellir ei weld tan 28 Rhagfyr. Mae tocynnau'n gwerthu'n gyflym felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n archebu’n gyflym! Cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.