Darparu Profiadau Celfyddydol Ymarferol o Ansawdd Uchel i Bobl Ifanc

Mae plant ysgol yn Aberdaugleddau ar fin elwa o gydweithrediad newydd rhwng Theatr Torch a Chymdeithas Gelfyddydau Gorllewin Cymru wrth iddynt gyflwyno gweithdai mewn ysgolion. Gyda gweithwyr proffesiynol wrth y llyw, bydd yr elusennau'n ymweld â thair ysgol rhwng nawr a mis Hydref i ddarparu profiadau celf o ansawdd uchel.

Bydd y gweithdai'n cael eu harwain gan Ruth Stringer, dylunydd setiau a gwisgoedd The Turn of the Screw, cynhyrchiad hydref Theatr Torch. Bydd y disgyblion hefyd yn cael eu cefnogi gan aelodau o Gymdeithas Gelfyddydau Gorllewin Cymru, yn ogystal â Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch.

Mae cryfhau perthnasoedd ag ysgolion yn un o brif nodau Theatr Torch fel yr eglura Tim Howe:

“Rydym yn hynod ffodus i gael y cyfle hwn i gydweithio â Chymdeithas Gelfyddydau Gorllewin Cymru sydd yr un mor angerddol â ni am ddarparu profiadau celfyddydol ymarferol o ansawdd uchel i bobl ifanc.”

Parhaodd: “Wrth i gyllidebau’n gyffredinol (mewn ysgolion, gartref ac yn y sector celfyddydau) barhau i wynebu toriadau, rydym yn gwybod gwerth y partneriaethau hyn wrth sicrhau bod pobl ifanc yn datblygu eu sgiliau creadigol. Ond nid yw hyn yn ymwneud â bod yn artist yn unig. Mae hyn yn ymwneud â gwella sgiliau motor mawr, annog gwaith tîm, a helpu pobl ifanc i feithrin eu hyder a dod o hyd i’w llais.”

Wedi’i sefydlu yn 2006, mae Cymdeithas Celfyddydau Gorllewin Cymru yn gymdeithas lwyddiannus a bywiog gyda dros 150 o aelodau sy’n rhannu chwilfrydedd a chariad at y celfyddydau.

Dywedodd Adele Barclay o’r Gymdeithas y bydd y cydweithrediad o fudd i blant yr ysgol a bod dau grant – y Grant Cymunedol a Chronfa Goffa Patricia Fay – wedi caniatáu i’r gweithdai hyn ddigwydd.

“Mae’r gweithdai hyn yn fewnbwn anhygoel,” meddai Adele. “Po fwyaf y darllenwch yn y wasg am ariannu’r celfyddydau mewn ysgolion ac effaith ddifrifol Covid ar sgiliau cyfathrebu gyda rhai plant yn methu lliwio na lluniadu, mae gweithdai fel y rhain yn hanfodol.”

Disgyblion yn Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Ffransis, Ysgol Gynradd Gelliswick ac Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau yw'r ysgolion a fydd yn croesawu'r gweithdai hyn.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.