Dangosiadau Ffilm Annibynnol yn y Torch

O fis Chwefror tan ganol mis Ebrill, bydd Theatr Torch, Aberdaugleddau yn dangos amrywiaeth o ffilmiau annibynnol i weddu i bob chwaeth, diolch i gyllid grant gan Ffilm Cymru Wales. Nod cynllun grant Cymru gyfan yw cefnogi arddangoswyr ffilmiau annibynnol ledled y wlad i roi profiadau sinematig cyffrous ac ysbrydoledig i gynulleidfaoedd.

Dewisiadau Cymunedol yw enw'r prosiect yn y Torch a bydd yn dod â chynulleidfaoedd ynghyd i fwynhau ffilmiau beiddgar sy'n ysbrydoli ac yn cyffroi. Dewiswyd y teitlau gan gynulleidfaoedd a wahoddwyd i fynychu gweithdai rhaglennu i ddewis amrywiaeth o ffilmiau sy'n dangos ymrwymiad i'r iaith Gymraeg, cynaliadwyedd amgylcheddol a chwalu rhwystrau economaidd.

Dywedodd Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch:

“Gofynnon ni i chi, bobl Sir Benfro, pa ffilmiau yr hoffech chi eu gweld yn y Torch ac fe wrandawon ni. Mae gennym ni amrywiaeth wych o ffilmiau annibynnol i chi eu gweld – o Mr Burton y Sul hwn i Born Free ym mis Mawrth. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ffilm Cymru Wales am y cyllid i ganiatáu inni ddangos y ffilmiau gwych hyn ac allwn ni ddim aros i gynnig croeso cynnes i gynulleidfaoedd yn Theatr Torch.”

Mae'r ffilmiau annibynnol a fydd yn cael eu dangos yn Theatr Torch yn cynnwys Mr Burton ar ddydd Sul 8 Chwefror am 4.15pm yn cael ei dilyn gan Flow ar ddydd Mawrth 17 Chwefror am 4.45pm. Gellir gweld Fantastic Mr Fox ar 19 Chwefror am 4.45pm gyda Moonlight ar nos Wener 20 Chwefror am 6.15pm ac yn dod a dangosiadau mis Chwefror i ben.

Bydd mis Mawrth yn gweld Born Free ar ddydd Mercher 4 am 2.15pm; Earth ar fore dydd Iau 12 Mawrth am 11am; Sinners ar ddydd Sul 15 Mawrth am 7pm; Booksmart ar ddydd Sul 22 Mawrth am 2pm a Gwledd (The Feast) ar nos Wener 27 Mawrth am 8pm. Bydd I Swear yn cael ei dangos ar brynhawn Iau 2 Ebrill am 2pm; One Battle After Another ar ddydd Sul 5 Ebrill am 4pm gyda This is Spinal Tap ar ddydd Sul 12 Ebrill am 4pm, ac yn dod â Dewisiadau Cymunedol i glo am y tymor.

Pob tocyn yn £4.00 gyda disied o de/coffi am ddim. Ewch i wefan Theatr y Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.

 

 


 

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.