Bydd y Canlyniad yn Wirioneddol Ragorol!
Mwynhewch hud a lledrith gwisgoedd Fictoraidd yn The Turn of the Screw wrth i'r ddrama fynd i Theatr Torch yr hydref hwn. Gyda dau actor proffesiynol wrth y llyw, mae'r Goruchwyliwr Gwisgoedd lleol, Louise Sturley, wedi ymgymryd â'r her yn ei cham a bydd y canlyniad yn wirioneddol ragorol.
Bydd aelodau’r gynulleidfa’n cael gwledd wrth weld y cymeriadau yn eu holl ogoniant yn gwisgo dillad o gyfnod maith yn ôl pan oedd ffasiwn ar frig y rhestr mewn cylchoedd dylanwadol. Ond mae sicrhau bod aelodau’r cast yn cael eu portreadu yn y dillad cywir wedi gofyn am lawer o ymchwil a darllen fel yr eglura Louise:
“Ar ôl gweithio ym maes gwisgoedd ers nifer o flynyddoedd roedd eisoes gen i wybodaeth dda am wisgoedd hanesyddol, ond mae bob amser yn ddoeth gwneud ymchwil pellach o bryd i’w gilydd. Rwy’n hoffi edrych ar lyfrau ffasiwn hanesyddol, ac mae gen i lawer ohonynt - gyda ffotograffau neu brintiau gyda disgrifiadau gwych o ddillad yn dweud wrthych chi’r rheswm dros newidiadau mewn ffasiwn, ac eraill sy’n astudiaethau o ddillad hanesyddol, gyda brasluniau o sut maen nhw wedi’u gwneud a phatrymau ar sut i’w hail-greu’n gywir. Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig wrth weithio ar gynhyrchiad cyfnod i fod mor agos at gywirdeb â phosibl. Mae ymchwil yn allweddol.”
Mae Louise, sy'n byw yn Aberdaugleddau, yn wyneb cyfarwydd yn Theatr Torch. Ei chynhyrchiad cyntaf oedd Noises Off, yn ôl yn 2006, ac wedi hynny mae hi wedi gweithio ar bob cynhyrchiad mewnol tan 2016, gyda'r uchafbwyntiau'n cynnwys The Hired Man a Brief Encounter. Yna dychwelodd i'r Torch yn 2023 ac mae hi wrth ei bodd gyda'r arddull newydd o waith y mae'r Torch yn ei gynhyrchu sy'n uchelgeisiol ac yn gwthio ffiniau.
Yn 2013, gweithiodd Louise ar The Turn of the Screw gyda'r Cyfarwyddwr Artistig ar y pryd, Peter Doran.
“Pan gafodd ei berfformio bryd hynny, roedd o leiaf bum actor, wedi'u castio'n briodol yn seiliedig ar eu hoedran chwarae. Felly, rwy'n gyffrous i weld sut y bydd Seren Vickers a Samuel Freeman yn ymgymryd â rolau gwahanol gymeriadau heb wneud newidiadau corfforol i'w hymddangosiad,” eglurodd Louise.
Ychwanegodd: “Efallai y bydd corsed, coler datodadwy, ac efallai oriawr boced ond bydd unrhyw beth arall yn syrpreisd. Ond gallwch ddisgwyl boneddigion o ddiwedd oes Fictoria a silwetau hardd.”
Bydd The Turn of the Screw yn ymddangos ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Mercher 8 Hydref i ddydd Sadwrn 25 Hydref. Tocynnau: £18-£28. I archebu tocynnau drwy'r wefan ewch i torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.