Dechrau ar Eich Taith Greadigol yn Theatr Torch
Ydych chi erioed wedi dymuno bod yn awdur sgriptiau? Wel, nawr yw eich cyfle i roi cynnig ar ysgrifennu creadigol ar gyfer y llwyfan yn eich theatr leol gyda Gweithdai Ysgrifennu Creadigol i Oedolion! Bydd Theatr Torch yn Aberdaugleddau, dan lygad barcud tîm arbenigol, yn arwain sesiynau hwyliog bob pythefnos sy'n canolbwyntio ar archwilio a datblygu sgiliau ysgrifennu creadigol.
Mae’r sesiynau Ysgrifennu Creadigol, sydd ar agor i bawb dros 18 oed, yn rhan o ystod amrywiol o weithgareddau Theatr Torch sy’n cynnig cyfle i bawb ymwneud â’r celfyddydau. Nid oes angen profiad blaenorol arnoch, dim ond pen llawn syniadau a pharodrwydd i’w rhannu.
“Byddwn yn eich helpu i gael eich syniadau allan o’ch pen ac ar y dudalen, yn rhoi lleisiau i’ch cymeriadau, ac yn eich cefnogi i rannu eich gwaith ag eraill. Er mwyn cael y gorau o’ch profiad, ein nod yw creu gofod meithringar a chreadigol fel y gallwn eich troi’n awdur ar gyfer y llwyfan,” eglurodd Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch.
Parhaodd Tim: “Bob tymor rydym yn archwilio ffyrdd newydd o ysgrifennu, ac yn rhoi cynnig ar ein dulliau a’n harddulliau newydd. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar theatr gair am air sy’n ein gweld yn cymryd geiriau go iawn pobl ac yn eu cyfieithu’n sgript ar gyfer perfformiad. Ar ddiwedd pob tymor, rydym yn cynnal rhannu anffurfiol o’r gwaith y gallwch wahodd teulu a ffrindiau iddo.”
Mae ymuno yn hawdd. Cynhelir y sesiynau ar ddydd Iau rhwng 6.30pm ac 8.30pm yn Theatr Torch, gan ddechrau ar ddydd Iau 15 a 29 Ionawr, 12 Chwefror a 5 a 19 Mawrth. Mae pob sesiwn yn costio £10.00 neu £50 am y tymor cyfan.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr Torch ar 01646 695267 neu gysylltwch â Tim, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch ar tim@torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.