Dewch i ddarllen rhagor am y Bangers and Chips Explosion gan yr awdur!
The Bangers and Chips Explosion, wedi'i hysgrifennu gan yr athro a drodd yn awdur, Brough Girling, yw antur gomedi gyffrous Theatr Ieuenctid y Torch sy'n siŵr o sicrhau noson wych i chi ym mis Gorffennaf!
Cafodd Anwen o'n Tîm Marchnata sgwrs gyda Brough a dyma beth oedd ganddo i'w ddweud ...
O ble ges di’r syniad i ysgrifennu The Bangers and Chips Explosion?
Pan oedd gen i lawer o lyfrau plant mewn print (1980au) roeddwn i'n arfer, fel awdur, ymweld â nifer o ysgolion cynradd. Y person cyntaf y byddwn i'n cwrdd ag ef fyddai ysgrifennydd yr ysgol - a sylwais fod ysgrifenyddion ysgol llawen, croesawgar, siriol fel arfer yn gweithio mewn ysgolion llawen, croesawgar a siriol, a'r gwrthwyneb oedd yr achos hefyd!
Roedd gen i'r syniad efallai mai ysgrifenyddion ysgolion sy'n rhedeg ysgolion, nid y penaethiaid! Nid yw hyn yn hollol wir, ond roeddwn i'n meddwl y gallwn i orliwio ychydig i greu effaith gomig: roeddwn i'n hoffi'r syniad o fenyw eithaf syth, â sbectol yn dod yn arwres ac yn achub y dydd! (Mewn cyferbyniad â'r dynion - mae'r Pennaeth a'r heddwas, wrth gwrs, yn gwbl anobeithiol..)
Dydw i ddim yn cofio sut wnes i gyrraedd y syniad o DDYNION DRWG nid COGYDDION – ond roedd y stori bryd hynny yn eithaf hawdd i'w hysgrifennu.
Dyweda tamaid wrthym am y cymeriadau ... a dy ffefryn!
Mae'n amlwg mai Mrs Perkins yw arwres y stori – gweler uchod. Ond roedd y twyllwyr a Mrs Gunge ac Arolygydd Bollard i gyd yn hwyl i'w creu hefyd. Bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r cymeriadau'n dod i'r amlwg yn eich cynhyrchiad. (Rwy'n bwriadu dod i weld y sioe).
Ydy'r menywod cinio yn y sioe yn debyg i'r menywod cinio oedd gennyt ti pan oeddet ti yn yr ysgol?
Dw i'n credu ei bod hi'n hollol wir bod menywod cinio naill ai'n neis iawn neu'n gas iawn - ac mae plant ysgol yn eu gweld nhw fel 'na.
Fel yr awdur, beth yw dy hoff bennod yn y nofel a pham?
Dw i ddim yn meddwl bod gen i hoff bennod mewn gwirionedd, ond dw i'n hoffi Hans Zupp yn eistedd ar y toiled sy'n ffrwydro ac yn dweud 'Gallaf weld fy nhŷ o fan hyn'!
At bwy wyt ti’n meddwl y bydd y sioe'n apelio?
Bydd y sioe yn apelio at y rhai sydd wedi darllen, neu'n darllen, neu'n dymuno eu bod nhw'n dal i ddarllen The Beano! (Wedi'r cyfan, mae'n tynnu coes athrawon, menywod cinio, plismon – mewn gwirionedd pob oedolyn; a'r arwyr – ar wahân i Mrs Perkins – yw'r plant ysgol, fel yn y comic.)
Rydyn ni wrth ein bodd yn chwerthin hollti bol yma yn y Torch – a fyddwn ni’n chwerthin llawer os dewn ni i weld y sioe?
‘Mae wedi’i Brofi’n Glinigol i wneud i chi chwerthin!’ – dyna slogan i ti!
Beth sydd well ‘da ti, selsig neu sglodion?
Hawdd: selsig, gyda sglodion, ac o leiaf ŵy wedi'i ffrio ar ei ben.
Bydd The Bangers and Chips Explosion yn cael ei pherfformio ar Lwyfan y Theatr ddydd Llun 21 Gorffennaf, dydd Mawrth 22 Gorffennaf a dydd Mercher 23 Gorffennaf am 6.30pm. Mae tocynnau'n £10 i oedolion ac yn £8 consesiynau. Ewch i'r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.