Mynd i’r Afael ag Unigrwydd gyda Blwch Post Cwtch

Mae gan Theatr Torch yn Aberdaugleddau flwch post newydd. Mae'n goch ac mae ganddo bwrpas penodol – i helpu i frwydro yn erbyn unigrwydd yn Sir Benfro a dod â ffrwydradau bach o hapusrwydd i aelodau mwyaf ynysig y gymuned. Y tu ôl i'r fenter newydd hon, o'r enw Blwch Post Cwtch, mae'r preswylydd lleol, Sandy Davies, sydd wedi sefydlu pum Blwch Post Cwtch tebyg mewn lleoliadau ar draws y sir.

Wedi'i chreu i frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysu cymdeithasol ymhlith pobl hŷn ac i hyrwyddo cysylltiadau da rhwng yr hen ac ifanc trwy bontio'r bwlch ac ailgysylltu cenedlaethau trwy eiriau, mae'r ymgyrch wedi'i thargedu at drigolion Sir Benfro nad oes ganddynt berthnasau neu deulu’n byw gerllaw efallai. Mae rhai efallai wedi colli partneriaid a nifer yn unig. Mae'r llythyrau hyn i oleuo diwrnod rhywun ac i sicrhau nad yw pobl hŷn y sir yn cael eu hanghofio.

“Anogir pobl i ysgrifennu llythyr, cerdd, stori fer ac ati a’i bostio i Flwch Post Cwtch. Yna caiff y llythyrau eu casglu, a’u darllen gennyf fi er mwyn gwirio eu cynnwys ac i sicrhau nad oes problemau diogelu. Byddant yn cael eu rhannu â phobl hŷn enwebedig ledled y sir. Nid gwasanaeth cyfaill gohebol mohono lle mae’r person sy’n derbyn y llythyr yn ysgrifennu’n ôl, dim ond math o gyfathrebu ydyw,” meddai Sandy a symudodd o Lundain i Sir Benfro gyda’i gŵr ryw 14 mlynedd yn ôl.

Ychwanegodd: “Penderfynais ddechrau ymgyrch Blwch Post Cwtch, oherwydd sylweddolais mai cadw mewn cysylltiad â bodau dynol eraill yw’r peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud i frwydro yn erbyn unigrwydd. Ymunwch â mi ar yr ymgyrch hon trwy rannu’r postiadau ac enwebu person oedrannus yn eich cymuned a fyddai’n elwa o lythyr wedi’i ysgrifennu â llaw ac ymweliad personol gennyf i! Hefyd, anogwch eich plentyn/plant i ysgrifennu llythyr, stori, cerdd, creu cerdyn neu dynnu llun i fywiogi diwrnod rhywun.”

Wedi’i hysbrydoli gan ei rhieni, ei thad Amritial Natalia a’i mam Vasantiben Natalia, a ysgrifennodd lythyrau post awyr at eu teuluoedd yn India ar ôl ymfudo i’r DU ddechrau’r 60au, mae Sandy yn sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu a rhannu straeon ar bapur. Byddai ei diweddar fam-yng-nghyfraith, Nora Davies, yn postio papur newydd wythnosol lleol a nodyn ysgrifenedig â llaw at deulu Sandy, pan oeddent yn byw yn Llundain, pan oedd hi’n byw yn Tiers Cross i’w cadw’n gyfredol ynghylch digwyddiadau cymunedol. 

“Pan fydd pobl yn dathlu pen-blwyddi y dyddiau hyn, maen nhw'n cael llai o gardiau wrth i bobl anfon e-gardiau. Mae pobl yn defnyddio sianeli cyfryngau cymdeithasol yn lle postio cardiau wedi'u hysgrifennu â llaw yn y post ac nid yw'r un peth. Mae'n drist iawn bod rhai pobl ond yn derbyn biliau a phost sothach. Nid yw llawer o bobl yn deall unigrwydd ac arwahanrwydd ac rwy'n angerddol iawn dros yr henoed ac am estyn allan atyn nhw,” eglurodd, Sandy, mam i un bachgen.

Mae Sandy wedi bod yn gweithio ym Meddygfa St Thomas ers 2011. Blwyddyn yn hwyrach cymerodd y rôl fel cydlynydd gwirfoddolwyr ar gyfer Re-engage, a elwid gynt yn Contact the Elderly, a threfnu partïon te ar eu cyfer.

“Mae’n dal i fynd, 13 mlynedd y mis Mehefin hwn. Ers dechrau helpu’r henoed, rydw i wedi trefnu dawnsfeydd te, cwisiau a phrynhawniau cacennau, ciniawau mewn gwahanol leoliadau, prynhawniau ffilm, dathliadau pen-blwydd yn ogystal â’r holl bartïon te,” ychwanegodd Sandy sy’n annog cymunedau Sir Benfro i ddechrau ysgrifennu.

Gall unrhyw un roi eu hysgrifen yn y blwch post, a gall pobl hefyd enwebu pobl hŷn i dderbyn y llythyrau a does dim tâl.

“Fy nod yw cynnal cyfarfod blynyddol gyda’r rhai sy’n ysgrifennu’r llythyrau a’r rhai sy’n eu derbyn. Dim ond menter ar draws Sir Benfro ydyw ar hyn o bryd ond rwy’n gobeithio y gall ddod yn fenter ledled Cymru ac y gall unigrwydd yn ein cymunedau ddod i ben,” meddai Sandy i gloi.

Ddydd Gwener 15 Awst, bydd Blwch Post Cwtch yn trefnu sesiwn ysgrifennu am ddim yn Theatr Torch yn benodol ar gyfer plant rhwng 11am a 3pm. Bydd plant yn gallu bod yn greadigol trwy ysgrifennu llythyr neu dynnu llun.

Mae Blwch Post Cwtch wedi'i leoli yn y cyntedd ger y Swyddfa Docynnau yn Theatr Torch a gellir dod o hyd i rai eraill yn Lolfa Waldo, Hwlffordd; Llyfrgell Hwlffordd, Ysgol Baratoi Redhill a Meithrinfa Montessori ac Ysgol Uwchradd Gatholig Mary Immaculate. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch:cwtchpostbox@hotmail.com neu ewch i Facebook: https://www.facebook.com/cwtchpostbox/.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.