BYDDWCH YN GREADIOL A GWELWCH EICH SYNIAD YN DOD YN FYW AR Y LLWYFAN!
Eleni, mae gan Theatr Torch gystadleuaeth ddylunio wych arall i bobl ifanc o bob oed gymryd rhan ynddi wrth i baratoadau ar gyfer pantomeim Nadoligaidd Rapunzel ddechrau. Meddyliwch y tu allan i'r bocs, byddwch yn greadigol, dechreuwch ddylunio a rhowch gynnig arni!
Mae pantomeimiau’r Torch bob amser yn cynnwys cysylltiadau â Sir Benfro, ac nid yw eleni yn eithriad gan eu bod yn rhoi tro unigryw gorllewin Cymru i Rapunzel. Chwiliwch am anturiaethau cyffrous ar y môr, palod cyfeillgar, goleudai, llawer o jôcs chwerthin hollti bol a chaneuon a rhai cyfleoedd gwych i gymryd rhan.
Mae'r tîm creadigol yn Theatr Torch yn Aberdaugleddau wrth eu bodd gyda mewnbwn y bobl ifanc ar draws y sir (yn ogystal â thu hwnt) ac yn edrych ymlaen yn aruthrol at weld beth sydd ganddyn nhw i'w rannu eleni. Derbyniodd cystadleuaeth 'Dylunio Gwrthrych Aur' y llynedd ar gyfer Jack and The Beanstalk bron i 200 o geisiadau, ac yn 2025 mae'r Torch am hyd yn oed mwy!
“Mae’r antur eleni yn dechrau gyda chi! Cymerwch ran trwy ein helpu i ddylunio un o’n dynion drwg y pantomeim – Creadur Môr Drwg! O dan orchymyn y Fam Gothel ffiaidd mae’r creadur môr hwn yn dychryn ac yn cadw ein harwyr yn ddwfn o dan y dŵr. Ond sut olwg sydd arno? Gallai fod yn rhan octopws neu siarc? Neu a yw’n debycach i ddolffin gyda dannedd a thentaclau? Dydyn ni ddim yn gwybod. Rydyn ni am eich help chi!,” meddai Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned yn y Torch.
Parhaodd “Gallwch anfon eich syniadau atom ar gyfer dyluniad mewn unrhyw fformat. Gallent fod wedi’u gwneud o gasgliad o ddelweddau a gweadau, toriadau o gylchgronau, stribedi o ddeunydd, wedi’u creu ar y cyfrifiadur neu gallent gael eu llunio â llaw – gadewch i’ch dychymyg redeg yn wyllt.”
Bydd y cyflwyniad buddugol yn cael ei ddefnyddio i greu'r Creadur Môr, a'i adfywio ar y llwyfan, a bydd yn ymddangos ym mhob perfformiad o Rapunzel gyda chyfeiriad arbennig at y person ifanc buddugol a'i ysgol. Mae tair categori oedran: Dan 5 oed, 5 – 10 ac 11 – 18 oed. Dewisir enillydd o bob categori, a bydd enillydd cyffredinol yn gweld ei ddyluniad yn cael ei wneud yn wrthrych gwirioneddol ar gyfer y pantomeim.
Bydd yr holl ddyluniadau'n cael eu harddangos yn Oriel Joanna Field yn y Torch drwy gydol mis Rhagfyr.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 10 Hydref 2025 a bydd yn rhoi digon o amser i Theatr Torch greu'r Creadur Môr yn barod ar gyfer dechrau tymor y pantomeim.
Dylai pob delwedd fod ar ddarn o bapur A4 (dim mwy) a chynnwys yr wybodaeth ganlynol ar y cefn:
• enw'r dylunydd,
• ysgol / coleg,
• manylion cyswllt.
Anfonwch geisiadau i Gystadleuaeth Creaduriaid Môr Mam Gothel, Theatr Torch, Heol Sant Pedr, Aberdaugleddau, Sir Benfro, SA73 2BU. Dechreuwch feddwl, gludo, peintio, lluniadu ac unrhyw beth arall a ddaw i’ch meddwl er mwyn gwneud i'ch dyluniad fod yn unigryw …a phob lwc!
Gallwch weld antur Rapunzel ar lwyfan Theatr Torch o ddydd Sadwrn 6 Rhagfyr i ddydd Sul 28 Rhagfyr. Perfformiad Amgylchedd Hamddenol ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr am 2pm a Pherfformiad Dehongli Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mawrth 16 Rhagfyr am 6pm. Pris tocyn: £24.50 | £20.00 Cons | £78.00 Teulu. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Theatr Torch www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.