PWY FYDD YN CAEL EI GORONI’N FENYW CINIO (NEU ORUCHWYLIWR AMSER CINIO) ORAU YN SIR BENFRO?!

Eleni, sioe haf arbennig Theatr Ieuenctid y Torch yw'r comedi ddoniol The Bangers and Chips Explosion ac mae angen eich help i ddod o hyd i'r Fenyw Ginio Orau (neu oruchwyliwr amser cinio) yn Sir Benfro!

Mae'r sioe yn seiliedig ar y nofel boblogaidd i blant gan Brough Girling sy'n cynnwys menyw ginio erchyll nad yw'n gweini sglodion yn Ysgol Gynradd St Gertrude! O ganlyniad, mae plant yr ysgol yn mynd ar streic - gyda chanlyniadau peryglus a doniol.

Ond mae aelodau Theatr Ieuenctid y Torch yn gwybod nad yw'r rhan fwyaf o fenywod cinio fel yr un yn eu drama, ac mae angen cymorth plant a staff ysgolion Sir Benfro arnyn nhw i ddod o hyd i'r fenyw ginio orau a mwyaf annwyl sydd erioed wedi troedio llawr ffreutur yr ysgol. A bydd un fenyw ginio lwcus (neu ddyn) yn cael ei choroni 'Y Fenyw Ginio Orau yn Sir Benfro'.

I enwebu eich hoff fenyw ginio (neu oruchwyliwr amser cinio) yn Sir Benfro, y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw tynnu llun o'ch menyw ginio yn gweithio'n galed a rhoi tri rheswm pam eich bod chi'n meddwl bod eich menyw ginio yn well na'r gweddill - mae mor hawdd â hynny!

Unwaith y bydd yr holl enwebiadau wedi dod i law, bydd panel Theatr Torch yn dod at ei gilydd ac yn penderfynu pwy yw'r enillydd teilwng a phwy fydd yn cael ei choroni'n Fenyw Ginio Orau yn y Sir. Bydd hi/ef yn cael hamper selsig o Gate 2 Plate yn Freystrop ger Hwlffordd yn ogystal â dau docyn i weld y sioe! 

“Mae hon yn gystadleuaeth hwyliog yr ydym yn gobeithio y bydd pob ysgol yn Sir Benfro yn cymryd rhan ynddi! Hyd yn oed Lisa o’n Caffi Torch anhygoel a safodd am lun rhwng gwneud selsig blasus, hi yw ein ffefryn ni – ond pwy yw eich un chi?” holodd Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned y Torch.

Parhaodd: “Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cofio ein menywod cinio yn yr ysgol. Mae’r arwyr tawel hyn o amser cinio wedi mynd y filltir ychwanegol bob amser, ac wedi gofalu amdanom ni yn neuadd yr ysgol neu allan ar y maes chwarae. Pe baem ni wedi bod yn ffodus iawn, efallai y byddem ni wedi cael llond llaw ychwanegol o sglodion ac ychwanegiadau bach pan ddaeth hi’n amser i gael roli-poli jam neu gacen siocled a chwstard. Rydym ni eisiau dathlu’r holl bobl anhygoel hyn sydd yn creu cymaint o effaith ar fywydau pobl ifanc ledled ein sir!”

Anfonwch eich enwebiad, eich tri rheswm pam rydych chi'n enwebu'r fenyw ginio hon, ynghyd â'i llun, eich manylion cyswllt a manylion cyswllt y fenyw ginio, drwy e-bost i – education@torchtheatre.co.uk gyda’r llinell bwnc “Cystadleuaeth y Fenyw Ginio Orau” cyn dydd Llun 7 Gorffennaf. Bydd pob enwebiad yn cael ei drin yn deg a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi’r wythnos ganlynol.

Gallwch ymuno â Lisa a'i thîm Caffi Torch am y bwydydd perffaith cyn un o’n sioeau byw neu adloniant darlledu gyda'u prydau blasus. Gyda bwydlenni misol blasus cyn sioeau neu ddarllediadau byw gyda'r nos, a bwydlenni blasus yn ystod y dydd ar gyfer perfformiadau’r prynhawn, mae Theatr Torch yn falch o ddweud nad yw'r tîm hwn yn debyg i gogyddion amser cinio yn The Bangers and Chips Explosion.

Bydd aelodau Theatr Ieuenctid y Torch yn cyflwyno The Bangers and Chips Explosion o ddydd Llun 21 Gorffennaf i ddydd Mercher 23 Gorffennaf am 6.30pm. Tocynnau: £10 llawn / £8 consesiynau. I archebu tocynnau trwy'r wefan ewch i torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.